Skip to main content

Mae'r bobl sy'n gweithio yma yn helpu i wneud Canolfan Mileniwm Cymru yn gartref creadigol i bawb.

Rydyn ni wedi ymrwymo i greu amgylchedd lle mae cydweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, eu gwerthfawrogi a'u hysbrydoli i wneud eu gwaith gorau. P'un a ydych yn datblygu eich gyrfa, yn gofalu am eich lles neu'n cydbwyso gwaith â’ch bywyd y tu allan i’r gwaith, mae ein buddion wedi'u cynllunio i'ch helpu i ffynnu.

Rydyn ni'n gwybod mai ein pobl yw ein prif gryfder. Dyna pam rydyn ni'n buddsoddi mewn cefnogi chi, yn broffesiynol ac yn bersonol.

Sylwch y gall rhai buddion amrywio yn dibynnu ar eich cytundeb a thelerau eich cyflogaeth.

Mwynhewch y gwaith rydyn ni'n ei greu

Tocynnau theatr am ddim

Profwch y gwaith sy'n dod â'n llwyfannau'n fyw gyda thocynnau theatr am ddim, sydd ar gael ar sail y cyntaf i'r felin. Bydd gennych hefyd fynediad at docynnau am bris gostyngol ar gyfer digwyddiadau a pherfformiadau dethol. Telerau ac amodau yn berthnasol.

Gostyngiadau ac arbedion bob dydd

Gostyngiadau i staff

O baned o goffi cyn gwaith i gynllunio diwrnod mas penigamp, bydd gennych fynediad at ystod o ostyngiadau ac arbedion.

Ymhlith y buddion mae:

  • Gostyngiad o hyd at 20% oddi ar fwyd a diod ar y safle ac yn ein siop, Armadilo
  • Parcio am bris is ym maes parcio Q-Park
  • Gostyngiadau ar fwytai lleol penodol, tocynnau sinema, siopa, teithio, ffitrwydd a mwy

Cefnogi eich iechyd a'ch lles

Cynllun iechyd

Helpu chi i ofalu am eich iechyd gyda chefnogaeth tuag at:

  • Triniaeth ddeintyddol
  • Gofal optegol
  • Therapïau cyflenwol ac amgen
  • Gwasanaethau iechyd a lles ychwanegol

Rhaglen Cymorth i Weithwyr

Beth bynnag rydych chi’n ei wynebu, mae cymorth cyfrinachol ar gael pryd bynnag y mae ei angen arnoch.

Mae ein Rhaglen Cymorth i Weithwyr yn rhoi mynediad 24/7 am ddim i chi at gwnsleriaid cymwys a gwasanaethau cymorth ymarferol.

Gweithgareddau lles

Rydyn ni’n cynnal amrywiaeth o fentrau lles trwy gydol y flwyddyn i gefnogi lles corfforol, meddyliol ac emosiynol.

Yswiriant bywyd

Er mwyn tawelwch meddwl ychwanegol, darperir yswiriant bywyd bedair gwaith eich cyflog blynyddol.

Trefniadau gweithio hyblyg

Wythnos waith 35 awr

Rydyn ni’n cynnig wythnos waith safonol 35 awr o hyd er mwyn cefnogi cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd a rhoi mwy o amser i chi ar gyfer y pethau sy'n bwysicaf i chi.

Ar gael mewn rolau cymwys.


Gweithio hyblyg a hybrid

Mae nifer o'n rolau yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg a hybrid, gan eich helpu i gydbwyso ymrwymiadau gwaith a phersonol.

Ar gael mewn rolau cymwys

Buddsoddi yn eich dyfodol

Dysgu a datblygu

Mae creadigrwydd a dysgu yn mynd law yn llaw.

Rydyn ni’n annog cydweithwyr i ddatblygu sgiliau newydd, archwilio cyfleoedd a thyfu trwy gydol eu gyrfaoedd. Ochr yn ochr â chyfleoedd datblygu proffesiynol, rydyn ni’n falch o gynnig gwersi Cymraeg am ddim fel rhan o'n hymrwymiad i Safonau'r Gymraeg.

Cynllun pensiwn uwch

Mae ein cynllun pensiwn uwch yn cynnwys mwy o gyfraniadau cyflogwyr, gan eich helpu i gynllunio ar gyfer y dyfodol yn hyderus.

Cynllun Beicio i'r Gwaith

Arbedwch arian ar offer beicio tra hefyd yn cefnogi eich iechyd, eich lles a ffordd fwy cynaliadwy o deithio.

Cynllun Cerbydau Trydan

Gall ein cynllun aberthu cyflog ar gyfer Cerbydau Trydan helpu i wneud gyrru trydan yn fwy fforddiadwy tra hefyd yn cefnogi dewisiadau teithio gwyrddach.

Amser i orffwys a chael eich cefn atoch

Gwyliau blynyddol hael

Byddwch yn derbyn 25 diwrnod o wyliau blynyddol yn ogystal â gwyliau banc, gyda'r cyfle i gynyddu eich hawl i wyliau gan hyd at bum diwrnod ychwanegol trwy wasanaeth hir.

Rydyn ni hefyd yn cynnig yr hyblygrwydd i brynu neu werthu hyd at bum diwrnod o wyliau blynyddol bob blwyddyn.

Gall addasiadau pro-rata fod yn gymwys yn dibynnu ar eich cytundeb.

Absenoldeb teuluol gwell

Rydyn ni’n cynnig tâl mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth uwch i'ch helpu chi a'ch teulu yn ystod cyfnodau bywyd pwysig, yn amodol ar feini prawf cymhwysedd.


Gweithle cysylltiedig

Lle creadigol i weithio

O weithfannau cydweithredol i'n hadeilad eiconig ym Mae Caerdydd, byddwch yn rhan o amgylchedd egnïol lle daw creadigrwydd, syniadau a phobl ynghyd bob dydd.

Clwb cymdeithasol

Mae Clwb, ein clwb cymdeithasol i staff, yn dod â chydweithwyr at ei gilydd drwy ddigwyddiadau a gweithgareddau drwy gydol y flwyddyn.

O ddathliadau'r haf i ddigwyddiadau’r gaeaf, mae'n ffordd wych o gysylltu â phobl o bob rhan o'r sefydliad.

Dathlu gwasanaeth hir

Rydyn ni’n falch o gydnabod a dathlu ymrwymiad, angerdd a chyfraniad cydweithwyr sydd wedi helpu i siapio Canolfan Mileniwm Cymru dros nifer o flynyddoedd.