Skip to main content

Mae rhai o'r eiliadau mwyaf cofiadwy ar y llwyfan yn bosib diolch i’r bobl sy'n gweithio y tu ôl y llenni.

Mae ein Cynllun Prentisiaethau Technegol yn rhoi cyfle i dechnegwyr theatr uchelgeisiol ennill profiad ymarferol, datblygu sgiliau arbenigol a chymryd y camau cyntaf tuag at yrfa mewn perfformio byw.

Fel un o ganolfannau celfyddydol mwyaf eiconig y DU, rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi'r genhedlaeth nesaf o dalent greadigol. Trwy hyfforddiant ymarferol, profiad yn y byd go iawn a chymwysterau a gydnabyddir gan y diwydiant, mae prentisiaid yn ennill yr hyder, y wybodaeth a'r cysylltiadau sydd eu hangen i adeiladu dyfodol yn y celfyddydau. 

Ar gyfer 2026/27, rydyn ni wedi croesawu pum prentis i’r cynllun, sy’n cydweithio â ni ochr yn ochr â'n sefydliadau partner ledled Cymru, gan gynnwys Opera Cenedlaethol Cymru, Theatrau Sir Gâr a Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth. Mae partneriaid diweddar hefyd wedi cynnwys Galeri, Bara Caws, Theatr Brycheiniog, ICC Cymru, New Theatre, Theatr Clwyd ac Arad Goch.

Team assembling a large silver Welsh dragon on stage.
Gwyliwch stori Bethany

Gwyliwch stori Bethany

Gwrandewch ar ein cyn-brentis Bethany yn trafod eu profiad ar y cynllun a sut y gwnaeth helpu i lunio eu gyrfa mewn theatr dechnegol.

Ein Cynllun Prentisiaethau Technegol

Dysgu trwy wneud

Mae theatr dechnegol yn ymwneud â gwireddu profiadau creadigol.

Mae technegwyr cefn llwyfan yn chwarae rhan hanfodol ym mhob cynhyrchiad, o osod offer a rheoli gweithrediadau ar y llwyfan i helpu i ddod â syniadau creadigol uchelgeisiol yn fyw. Mae eu gwaith yn helpu i sicrhau bod pob perfformiad yn rhedeg yn ddiogel, yn esmwyth ac i'r safon uchaf bosibl.

Crëwyd ein Cynllun Prentisiaethau Technegol mewn ymateb i brinder technegwyr theatr medrus ledled y DU. Trwy fuddsoddi yn y genhedlaeth nesaf, rydyn ni’n helpu i gryfhau dyfodol y celfyddydau yng Nghymru a thu hwnt.

Yr hyn sy'n gwneud y rhaglen yn unigryw yw'r cyfle i ennill blwyddyn lawn o brofiad ymarferol gyda thâl yn un o'r canolfannau celfyddydol prysuraf ym Mhrydain, ochr yn ochr â phrofiadau gyda sefydliadau partner ledled Cymru. Mae prentisiaid yn datblygu sgiliau ymarferol, hyder proffesiynol a phrofiad diwydiant go iawn mewn amgylchedd cefnogol.

Yn ystod y flwyddyn, mae prentisiaid yn gweithio ar ystod eang o gynyrchiadau, o opera ar raddfa fawr a sioeau cerdd teithiol i theatr gyfoes a chynyrchiadau rhyngwladol. Nid oes unrhyw bythefnos byth yr un fath.

Cymwysterau a hyfforddiant

Cyflwynir y cynllun mewn partneriaeth â Choleg Caerdydd a'r Fro. Mae prentisiaid yn gweithio tuag at gymhwyster Lefel 3 mewn Theatr Dechnegol: Llwyfan ac yn ennill Gwobr Efydd Cymdeithas Technegwyr Theatr Prydain (ABTT), sy'n cwmpasu meysydd gan gynnwys ymarfer hedfan, rhaffau a chlymau, a diogelwch trydanol.

Mae cyfleoedd hyfforddi ychwanegol yn cynnwys:

  • Ardystiad rigio
  • Ardystiad Profi PAT
  • Hyfforddiant IPAF
  • Cymwysterau rhifedd a llythrennedd lle bo angen

Mwy na sgiliau technegol

Ochr yn ochr â hyfforddiant technegol, mae prentisiaid yn datblygu sgiliau sy'n cefnogi llwyddiant gyrfa hirdymor, gan gynnwys:

  • Cyfathrebu
  • Cydweithio
  • Annibyniaeth
  • Datrys problemau
  • Atebolrwydd
  • Hyder proffesiynol

Mae ein nod yn syml: helpu pobl dalentog i ddatblygu gyrfaoedd cynaliadwy a gwerth chweil yn y celfyddydau byw.

Trwy gydol y rhaglen, mae prentisiaid yn derbyn cefnogaeth, arweiniad a chyfleoedd i adeiladu rhwydweithiau proffesiynol sy’n gallu parhau ymhell ar ôl i'r lleoliad ddod i ben.

Cyflogaeth â thâl

Mae prentisiaid yn derbyn cytundeb 12 mis llawn amser gyda thâl.

Mae hyn yn caniatáu i gyfranogwyr ennill profiad gwerthfawr yn y gweithle tra’n datblygu eu sgiliau technegol mewn amgylcheddau proffesiynol ledled Cymru.

Pethau i'w hystyried

Gall gyrfa mewn theatr dechnegol fod yn hynod werth chweil, ond mae'n bwysig deall realiti'r rôl cyn gwneud cais.

Oriau gwaith

Nid swydd draddodiadol rhwng 9am a 5pm mo hon.

Mae patrwm gweithio technegydd theatr yn amrywio yn dibynnu ar y cynyrchiadau sy'n digwydd. Gall rhai wythnosau ganolbwyntio ar gynnal a chadw a pharatoi, tra bod eraill yn cynnwys perfformiadau gyda'r nos, cynyrchiadau sy’n teithio neu deithiau dros nos wrth i sioeau adael y safle.

Mae hyblygrwydd yn rhan bwysig o'r rôl, a gall eich oriau gwaith fod yn wahanol iawn i oriau gwaith eich teulu a ffrindiau.

Cyrraedd y gwaith

Cyn gwneud cais, mae'n bwysig meddwl am sut y byddwch yn teithio i'r gwaith ac oddi yno.

Mae ein cartref ym Mae Caerdydd yn hawdd i'w gyrraedd yn ystod oriau gwaith safonol ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mewn car. Fodd bynnag, gall rhai shifftiau orffen yn hwyr gyda'r nos, felly bydd angen i chi ystyried eich trefniadau teithio yn ofalus.

Rydyn ni’n argymell ystyried amseroedd teithio, costau cludiant a sut y byddwch chi'n teithio'n ddiogel ar ôl gorffen yn hwyr yn y nos.

Bod yn drefnus

Ochr yn ochr â'ch rôl o ddydd i ddydd, byddwch yn cwblhau asesiadau ymarferol sy'n rhan hanfodol o'r brentisiaeth.

Rydyn ni'n chwilio am bobl sy'n ymroddedig, yn chwilfrydig ac yn barod i ddysgu. Bydd gofyn i chi reoli dyddiadau cau, cofleidio heriau newydd a gwneud y gorau o bob cyfle.

Nid oes angen i chi gael popeth yn iawn y tro cyntaf. Mae dysgu yn aml yn dod trwy gamgymeriad ac arbrofi. Yr hyn sydd bwysicaf yw eich parodrwydd i ddysgu a thyfu. Byddwch yn cael eich cefnogi trwy gydol y rhaglen gan rwydwaith cryf o gydweithwyr, mentoriaid a darparwyr hyfforddiant.


Ceisiadau

Mae recriwtio ar gyfer cynllun 2026/27 bellach wedi cau.

Byddwn yn recriwtio eto ym mis Mehefin 2027.