Skip to main content

Tîm Weithredwr

Mathew Milsom

Prif Weithredwr

Brodor o Gaerdydd yw Mathew Milsom a ymunodd â Chanolfan Mileniwm Cymru yn 2006 fel ymgynghorydd ar ôl cyfnod o redeg cwmni llwyddiannus ei hun yn ymgynghori busnesau.

Fel Cyfarwyddwr Cyllid, sicrhaodd sefydlogrwydd ariannol y busnes, gan ei wneud yn un o brosiectau'r mileniwm mwyaf llwyddiannus a ariannwyd gan y Loteri. Daeth Mathew yn Rheolwr Gyfarwyddwr yn 2013 cyn dod yn Brif Weithredwr yn 2024.

Mae Mathew wedi ymrwymo i sicrhau bod pobl Caerdydd a Chymru gyfan yn cael y budd cyhoeddus mwyaf posib o'r Ganolfan.

Mae hefyd yn angerddol dros ymestyn gorwelion pobl ifanc trwy'r celfyddydau, yn arbennig y rheiny sy'n dod o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru.

Mae hefyd yn credu y dylai Canolfan Mileniwm Cymru arwain y ffordd. O ganlyniad i hynny, mae'r Ganolfan bellach yn rhannu arferion gorau yn y celfyddydau, yn ogystal â sectorau busnes eraill, gan gynnwys gweithgynhyrchu, yn arbennig yn y maes cynaliadwyedd.

Mae Mathew yn aelod o Sefydliad Siartredig y Cyfrifyddion.



Graeme Farrow stands in an auditorium with rows of seats, wearing a blue jacket and striped shirt, facing the camera.

Graeme Farrow

Prif Swyddog Creadigol

Dwi’n gweithio fel prif swyddog creadigol Canolfan Mileniwm Cymru ar hyn o bryd, ac yn gyfrifol am ein strategaeth greadigol, ein rhaglen a’n gwaith gydag artistiaid, cymunedau a phobl ifanc. Dwi’n ceisio gwneud lle i bobl hadrodd eu straeon a dod o hyd i’w llais creadigol, gan eu gwahodd i danio eu dychymyg mewn cartref creadigol i bawb.

Ers ymuno â Chanolfan Mileniwm Cymru fel cyfarwyddwr artistig yn 2014, dwi wedi ail-lunio’r ganolfan gelfyddydol fel cynhyrchydd yn ogystal â chyflwynydd gwaith. Mae ein cynyrchiadau wedi cynnwys City of the Unexpected ar gyfer canmlwyddiant Roald Dahl gyda National Theatre Wales, Gŵyl y Llais, The Boy with Two Hearts ac yn fwyaf diweddar Nye gyda’r National Theatre, yn serennu Michael Sheen.

Dwi wedi blaenoriaethu’r broses o ddatblygu a mabwysiadu modelau newydd o gyfranogi gyda phobl ifanc a chymunedau ac ar hyn o bryd rydyn ni’n addasu gofodau ar ein safle i greu stiwdios newydd a fydd yn cael eu rhedeg gan bobl ifanc i bobl ifanc.

Mae gen i ddiddordeb mewn archwilio straeon a chreu gwaith gan ddefnyddio technoleg ymdrochol ac rydyn ni’n dylunio adeilad newydd a fydd yn cefnogi hyn ac yn darparu hwb cynhyrchu newydd ar gyfer ein gwaith ac i Gymru.

Cyn symud i Gymru, roeddwn i’n gynhyrchydd gweithredol yn gyfrifol am ddylunio a chyflwyno rhaglen artistig Dinas Diwylliant Cyntaf y DU yn Derry-Londonderry lle buais i’n rheoli digwyddiadau a phrosiectau ar raddfa fawr gan gynnwys The Return of Colmcille gyda Frank Cottrell Boyce a Walk the Plank a’r Wobr Turner y tu allan i Loegr am y tro cyntaf yn ei hanes.

Yn 2006 des i’n gyfarwyddwr gŵyl gelfyddydol fwyaf Iwerddon, sef Gŵyl Belfast yn Queen’s, ac yna des i’n bennaeth diwylliant a chelfyddydau ym Mhrifysgol Queen’s gyda chyfrifoldeb ychwanegol dros sinema ac oriel. Fi oedd rhaglennydd Gŵyl Ffilmiau cyntaf Belfast,  a derbynnydd cyntaf gwobr Unigolyn Celfyddydol y Flwyddyn Gogledd Iwerddon.

Tîm Uwch Reolwyr

Rhys Davies

Pennaeth Gwasanaethau Digidol

Emma Evans

Pennaeth Profiadau Creadigol

Gemma Jeynes

Pennaeth Cyllid

Laura Morgan

Pennaeth Gweithrediadau Cwsmeriaid

Steven Morris

Pennaeth Gweithrediadau

Nikki Underwood-James

Pennaeth Codi Arian a Phartneriaethau