Skip to main content

Fel sefydliad, fe benderfynon ni, er mwyn aros yn berthnasol ac yn ddefnyddiol i bobl ifanc, bod angen i ni wneud lle iddyn nhw a sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed yma.

Arweiniodd hyn at greu ein cyngor ieuenctid, sef y Criw Ieuenctid, a mae yn helpu i lywio sawl agwedd ar ein sefydliad a sicrhau ein bod ni’n lle cynhwysol i bobl ifanc.

Mae'r Criw Ieuenctid yn cwrdd yn rheolaidd i rannu pryderon am gyfleusterau, cyfranogiad, cydnawsedd, cynhwysiant, hygyrchedd ac amrywiaeth, a mae nhw’n gweithio’n gyda’n staff a hwyluswyr y cyngor ieuenctid i gyflawni hyn.