Cynaliadwyedd
Creu dyfodol mwy cynaliadwy.
Mae creadigrwydd yn ein helpu i ddychmygu dyfodol gwell. Mae’n gallu herio'r ffordd rydyn ni'n meddwl, dod â phobl ynghyd ac ysgogi newid ystyrlon.
Fel cartref creadigol i bawb, rydyn ni’n cydnabod yr argyfwng hinsawdd a'r angen brys am weithredu. Rydyn ni wedi ymrwymo i leihau ein heffaith amgylcheddol, cefnogi arferion cynaliadwy a helpu i greu dyfodol lle gall pobl a chreadigrwydd ffynnu gyda'i gilydd.
Mae cynaliadwyedd wedi'i blethu trwy bob elfen o'n gwaith, o'r ffordd rydyn ni'n pweru ac yn gweithredu ein hadeilad i'r cynyrchiadau rydyn ni'n eu llwyfannu a'r partneriaethau rydyn ni'n eu datblygu.
Yn ystod 2025, fe wnaethom ni gyflawni ardystiad ISO 14001, gan ddangos ein hymrwymiad i safonau rheoli amgylcheddol sy’n cael eu cydnabod yn rhyngwladol.
Arwain trwy esiampl: Gwobr y Brenin am Fenter mewn Datblygu Cynaliadwy
Rydyn ni’n falch o fod yr unig sefydliad celfyddydol yn y DU i dderbyn Gwobr y Brenin am Fenter mewn Datblygu Cynaliadwy 2026.
Mae'r gydnabyddiaeth yma’n dathlu ymrwymiad sydd wedi bod yn rhan o'n stori ers i ni agor yn 2004. O fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy i gefnogi ffyrdd mwy cynaliadwy o weithio, rydyn ni’n gyson yn chwilio am ffyrdd o leihau ein heffaith a chreu newid cadarnhaol.
Mae'r wobr yn cydnabod ein gwaith i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, cefnogi ein cymunedau a helpu i adeiladu dyfodol mwy cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau i ddod.
Cefnogi nodau byd-eang
Yn 2015, fe gyflwynodd y Cenhedloedd Unedig 17 Nod Datblygu Cynaliadwy (SDGs), gan ddarparu cynllun a rennir ar gyfer dyfodol gwell.
Yma yng Nghymru, mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) yn rhoi datblygu cynaliadwy wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau, gan annog sefydliadau i feddwl am effaith eu gweithredoedd ar genedlaethau'r dyfodol.
Drwy ein gwaith, rydyn ni’n helpu i gyfrannu at Gymru fwy gwydn, cyfartal a chynaliadwy drwy gefnogi:
- Addysg o Ansawdd
- Gwaith a Thwf Economaidd Parchus
- Defnydd a Chynhyrchu Cyfrifol
- Gweithredu ar Newid Hinsawdd
Rydyn ni hefyd yn helpu i yrru newid ledled y sector drwy Lyfr Gwyrdd y Theatr, fframwaith sy'n cefnogi arferion mwy cynaliadwy ar draws adeiladau, gweithrediadau a chynyrchiadau. Fel sefydliad diwylliannol blaenllaw, rydyn ni’n falch o hyrwyddo ei fabwysiad ledled Cymru.
Sut rydyn ni'n gwneud gwahaniaeth
Adeiladau
Mae cynaliadwyedd wrth wraidd ein hadeilad.
Mae rhai o'r ffyrdd rydyn ni'n lleihau ein heffaith amgylcheddol yn cynnwys:
• 720 o baneli solar ar ein to, gan arbed mwy na 50 tunnell o garbon bob blwyddyn. Mae ein theatr yn gartref i lwyfan solar cyntaf y DU.
• Disodli dros 82% o oleuadau hŷn gyda thechnoleg LED ynni-effeithlon, gydag ymrwymiad i gyrraedd 100% erbyn 2030.
• Cefnogi Rhwydwaith Gwres Ardal Caerdydd, gan helpu i leihau dibyniaeth ar danwydd ffosil drwy ddefnyddio gwres gwastraff.
• Ailddefnyddio 70% o ddodrefn yn ystod ein gwaith adnewyddu swyddfa fel rhan o ddull economi gylchol.
Gweithrediadau
Mae cynaliadwyedd yn dylanwadu’r ffordd rydyn ni'n gweithio bob dydd.
Rydyn ni’n:
• Gweithio tuag at anfon dim gwastraff i safleoedd tirlenwi
• Blaenoriaethu cynaliadwyedd trwy ein prosesau caffael.
• Lleihau pecynnau untro ar draws ein gweithrediadau bwyd a diod.
• Cefnogi cyflenwyr lleol lle bynnag y bo modd.
• Darparu tocynnau digidol ar gyfer 98% o archebion, gan helpu i leihau'r defnydd o bapur.
• Annog teithio cynaliadwy drwy ein hymrwymiad i Siarter Teithio Llesol Cymru.
Rydyn ni hefyd wedi croesawu nythfa o wenyn i'n safle. Mae peillwyr yn chwarae rhan hanfodol mewn ecosystemau iach, ac rydyn ni’n falch o gefnogi bioamrywiaeth leol ochr yn ochr â'n gwaith yn cefnogi'r celfyddydau a diwylliant.
Cynyrchiadau
Gall y straeon rydyn ni'n eu hadrodd helpu pobl i weld y byd mewn ffyrdd gwahanol.
Rydyn ni’n gweithio gydag artistiaid, cynhyrchwyr a phartneriaid creadigol i ymgorffori cynaliadwyedd yn y ffordd y mae cynyrchiadau yn cael eu creu a'u cyflwyno.
Mae hyn yn cynnwys:
- Ailddefnyddio setiau a deunyddiau lle bynnag y bo'n bosibl.
- Cynhyrchu gwaith yn unol â safonau Llyfr Gwyrdd y Theatr.
- Cefnogi profiadau ymdrochol fel prosiectau Bocs sy'n annog cynulleidfaoedd i ymgysylltu â materion amgylcheddol a dychmygu posibiliadau newydd ar gyfer y dyfodol.
Pobl a chymunedau
Mae newid yn cymryd ymdrech gan bawb.
Rydyn ni’n cefnogi cydweithwyr i ddeall a chyfrannu at ein nodau cynaliadwyedd trwy hyfforddiant, gweithdai a mentrau staff.
Mae ein timoedd hefyd yn gwirfoddoli gyda banciau bwyd lleol ac yn trefnu sesiynau cymunedol codi sbwriel o amgylch Bae Caerdydd, gan gydweithio â busnesau a phartneriaid i ofalu am yr amgylchedd rydyn ni’n ei rannu.
Edrych ymlaen
Rydyn ni'n falch o'r cynnydd rydyn ni wedi'i wneud, ond rydyn ni'n gwybod bod mwy i'w wneud o hyd.
Mae ein camau nesaf yn cynnwys:
- Dod yn sefydliad carbon sero net erbyn 2035.
- Ymuno â Rhwydwaith Gwres Ardal Caerdydd.
- Annog teithio mwy cynaliadwy drwy bartneriaethau gyda Thrafnidiaeth Cymru.
- Ehangu ein defnydd o gyflenwyr moesegol a lleol.
- Buddsoddi mewn gwelliannau adeiladau sy'n lleihau'r defnydd o ynni ac yn gwella effeithlonrwydd.
- Tyfu cynaliadwyedd ar draws ein rhaglenni dysgu a chymunedol, gan helpu cenedlaethau'r dyfodol i ddatblygu'r wybodaeth a'r hyder i greu newid cadarnhaol.
Gwobrau a Chydnabyddiaethau
- Mae ein gwaith cynaliadwyedd wedi cael ei gydnabod trwy ystod o wobrau cenedlaethol a rhyngwladol, gan gynnwys:
- Gwobr y Brenin am Fenter mewn Datblygu Cynaliadwy 2026
- Gwobr y Frenhines am Ddatblygu Cynaliadwy 2015
- Gwobr Effaith IWFM am Weithredu Cadarnhaol ar yr Hinsawdd 2023
- Tystysgrif Ynni I'w Harddangos, Gradd A, 2024
- Ardystiad ISO 14001 2025