Mynediad i bawb
Darganfyddwch sut rydyn ni'n gwneud Canolfan Mileniwm Cymru yn gartref creadigol i bawb.
Er mwyn sicrhau bod unrhyw un yn gallu cael mynediad at y celfyddydau, waeth be fo’u hamgylchiadau na’u chwaeth, rydyn ni’n cydweithio â chymunedau, pobl ifanc a chynulleidfaoedd i greu rhaglenni a ffyrdd o weithio sy’n groesawgar i bawb.
Tocynnau Croeso
Dyma ein cynllun tocynnau ‘talwch beth y gallwch’, sy’n sicrhau bod y rheini na fyddai fel arfer yn cael cyfle i ymwneud â’r celfyddydau yn cael yr un cyfleoedd â’r rheini sy’n mynychu ac yn ymgysylltu yn aml. Rydyn ni’n cynnig Tocynnau Croeso i grwpiau a rhwydweithiau cymunedol ar gyfer pob sioe yn ein Theatr Donald Gordon, fel bod modd i bawb fwynhau theatr o’r radd flaenaf; y llynedd fe gafodd dros 3,200 o bobl fynediad at seddi am bris gostyngol.
Perfformiadau a mannau hygyrch
Mae pob man yn gwbl hygyrch ac â’r nod o fod yn weithredol gynhwysol. O fannau parcio bathodynnau glas i berfformiadau ymlaciedig a thoiledau sy’n niwtral o ran rhywedd yn ein gofod perfformio Cabaret, neu’r lleisiau a’r iaith rydych chi’n ei glywed ar ein system Tannoy – rydyn ni’n gweithio’n barhaus i wella ar ein harlwy, fel bod pawb yn teimlo’n gyfforddus yn ymwneud â ni.
Rydyn ni hefyd yn datblygu ein mannau cyhoeddus fel bod modd i ragor o bobl eu rhannu a’u defnyddio. Mae’r rhain yn cynnwys Ffwrnais, ein bar-caffi mawr sy'n cael ei ddefnyddio gan lawer o grwpiau cymunedol ac unigolion er mwyn cyfarfod a chydweithio mewn awyrgylch gynnes, ddiogel a chysylltiedig, a gan artistiaid lleol er mwyn dangos eu gwaith; Cabaret, ein cartref newydd ar gyfer talent amrywiol ac eclectig a gofod cynhwysol ar gyfer cynulleidfaoedd a pherfformwyr; a Platfform, gofodau dan arweiniad pobl ifanc ar gyfer pobl ifanc sy’n cael eu datblygu a’u cyd-greu ar hyn o bryd.
Rydyn ni’n sicrhau bod cynnig o berfformiadau ymlaciedig a chynorthwyol lle bo modd – gallwch ddefnyddio’r hidlydd ar ein tudalen digwyddiadur i chwilio am y rhain a darganfyddwch fwy am ein cyfleusterau hygyrch.