Rydyn ni'n dod â phobl at ei gilydd
Rydyn ni’n dod â phobl at ei gilydd drwy weithdai, arddangosfeydd, dathliadau diwylliannol a gofodau i’w rhannu, gan greu cyfleoedd i gysylltu, cymryd rhan a pherthyn.
Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn fwy na lle i weld sioe. Bob dydd, mae pobl yn dod at ei gilydd yma i rannu syniadau, dysgu sgiliau newydd, dathlu diwylliant, archwilio creadigrwydd a threulio amser gydag eraill.
O weithdai cyhoeddus, arddangosfeydd a chyfleoedd creadigol i ddigwyddiadau blynyddol fel ein Parêd Llusernau, dathliadau Dydd Gŵyl Dewi a Charnifal Butetown, mae llawer o ffyrdd i gymryd rhan. Mae ein gofodau hefyd yn cael eu defnyddio gan grwpiau lleol, sefydliadau cymunedol, busnesau, ffrindiau a chymdogion, sy’n ein gwneud ni yn lle i bobl gysylltu, creu a pherthyn.
P’un a ydych chi eisiau cymryd rhan mewn digwyddiad, ymuno â gweithdy, rhannu eich gwaith, archebu gofod neu dreulio amser gydag eraill, mae croeso cynnes i chi yma. Y gweithgareddau yma o ddydd i ddydd, a’r bobl tu ôl iddyn nhw, sy’n gwneud Canolfan Mileniwm Cymru yn galon ein cymuned.