Rydyn ni’n buddsoddi mewn pobl a syniadau
Mae creadigrwydd yn agor drysau. Mae’n dod â phobl at ei gilydd, creu cyfleoedd a helpu i lunio dyfodol gwell i Gymru. Yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, rydyn ni’n buddsoddi yn y bobl a’r syniadau sy’n gwneud hyn yn bosib.
O raglenni dysgu creadigol i bobl ifanc i ddatblygu artistiaid, comisiynau a llwybrau gyrfa, rydyn ni'n cefnogi pobl ar bob cam o'u taith greadigol.
Rydyn ni'n credu y dylai creadigrwydd fod yn hygyrch i bawb, ac rydyn ni'n gweithio i greu amgylchedd cynhwysol, croesawgar a dwyieithog lle gall pobl gyfranogi, perthyn a chyrraedd eu potensial.
Rydyn ni hefyd yn buddsoddi yn nyfodol creadigrwydd yng Nghymru. Drwy ein lleoliad ymdrochol newydd, cefnogaeth ar gyfer doniau datblygol ac ymrwymiad i arloesi, rydyn ni'n creu gofod ar gyfer syniadau newydd, ffurfiau newydd ar adrodd straeon a'r genhedlaeth nesaf o brofiadau creadigol.
Drwy fuddsoddi mewn pobl, cefnogi syniadau dewr a chreu gweithle lle gall pawb ffynnu, rydyn ni'n helpu i adeiladu dyfodol mwy uchelgeisiol, teg a chynaliadwy ar gyfer diwylliant yng Nghymru.