Adeiladu'r Dyfodol - Ein Hadeilad Newydd
Cartref newydd ar gyfer straeon ymdrochol yng Nghymru
Rydyn ni'n buddsoddi yn nyfodol adrodd straeon.
Gan adeiladu ar lwyddiant ein rhaglen ymdrochol ac enw da rhyngwladol cynyddol Gwobr Annwn, bydd ein lleoliad digidol yn gyntaf newydd yn gartref dynodedig ar gyfer profiadau ymdrochol, technoleg greadigol a chyfranogiad cynulleidfaoedd. Mae’n cynrychioli cam mawr ymlaen yn ein hymrwymiad i gefnogi artistiaid, datblygu ffurfiau newydd o adrodd straeon a sicrhau bod Cymru yn chwarae rôl flaenllaw yn nyfodol diwylliant.
Bydd y lleoliad yn un o ofodau pwrpasol cyntaf y DU ar gyfer gwaith ymdrochol a thrwy brofiad, wedi’i gynllunio er mwyn i artistiaid, pobl greadigol a chynulleidfaoedd archwilio straeon mewn ffyrdd newydd. Ochr yn ochr â phrofiadau o safon fyd-eang, bydd yn darparu gofod ar gyfer creu, profi a rhannu gwaith newydd, gan greu cyfleoedd i artistiaid yng Nghymru arbrofi gyda thechnolegau datblygol a chyrraedd cynulleidfaoedd newydd.
Mae’r uchelgais yma wedi bod yn tyfu ers sawl blwyddyn. Drwy Bocs a’n rhaglen ymdrochol drwy gydol y flwyddyn, rydyn ni wedi croesawu miloedd o ymwelwyr i brofiadau sy’n cyfuno celf, adrodd straeon a thechnoleg. O realiti rhithwir a realiti cymysg i osodweithiau amlsynhwyraidd, rydyn ni wedi gweld sut y gall gwaith ymdrochol agor posibiliadau newydd ar gyfer y ffordd y caiff straeon eu profi a’u rhannu.
Heddiw, straeon ymdrochol yw un o’r meysydd arloesol creadigol mwyaf cyffrous yn y byd. Drwy ein tymhorau ymdrochol, partneriaethau rhyngwladol a Gwobr Annwn, rydyn ni’n cysylltu Cymru ag artistiaid ac arloeswyr blaenllaw o bob cwr o’r byd wrth greu cyfleoedd i gynulleidfaoedd lleol brofi gwaith arloesol ar stepen eu drws.
Mae ein lleoliad newydd yn mynd â’r ymrwymiad hwnnw hyd yn oed ymhellach. Bydd yn lle i greadigrwydd, technoleg ac adrodd straeon ddod at ei gilydd, gan helpu i ddatblygu doniau, tyfu cynulleidfaoedd a llywio dyfodol profiadau ymdrochol yng Nghymru a thu hwnt.