Skip to main content
Newyddion

Celfyddydau Ymdrochol yn sicrhau cyllid am dair blynedd arall

Postiwyd 18 Medi 2026

Stage presentation screen reading "THREE MORE YEARS!" for Immersive Arts, with purple character and date range.

Mae Celfyddydau Ymdrochol wedi sicrhau dros £8.5 miliwn i barhau i gefnogi artistiaid gwledydd Prydain sy'n gweithio gyda thechnolegau ymdrochol tan 2030, yn dilyn lefelau uchel o alw am grantiau a chyfleoedd datblygu yn ystod cam cyntaf y rhaglen.

Ers ei lansio yn 2024 gyda buddsoddiad o £6 miliwn, mae rhaglen Celfyddydau Ymdrochol, sy'n gweithredu ledled gwledydd Prydain, wedi dyfarnu dros £3.24 miliwn mewn grantiau i 225 o dimau creadigol ac wedi creu cyfleoedd cynhwysol a hygyrch i dros 2,300 o artistiaid ledled gwledydd Prydain, i archwilio, arbrofi neu estyn sut maen nhw'n gwneud gwaith sy'n defnyddio technoleg er mwyn mynd ati i gynnwys cynulleidfa.

Bydd y cyllid newydd yn ymestyn y rhaglen am dair blynedd arall, gyda thros £4.7 miliwn yn cael ei ddyrannu'n uniongyrchol i artistiaid ym mhob cam o'u datblygiad creadigol drwy grantiau, hyfforddiant a chyfleoedd datblygiad proffesiynol. 

Bydd hefyd yn gwella cefnogaeth i artistiaid sy'n barod i fasnacheiddio eu gwaith a thyfu busnesau creadigol cynaliadwy, gan gynnig cyngor busnes a buddsoddi wedi'i deilwra, ochr yn ochr â chyfleoedd i gysylltu â chydweithwyr, arianwyr a buddsoddwyr.

Darperir cyllid ar gyfer rhaglen Celfyddydau Ymdrochol drwy gywaith rhwng Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (UKRI), Cyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Celfyddydau Lloegr, yr Alban Greadigol a Chyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon. Darperir cyllid o Gyngor Celfyddydau Cymru, yr Alban Greadigol a Chyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon gan y Loteri Genedlaethol.

Cyhoeddwyd y newyddion gan yr Athro Verity McIntosh o Brifysgol Gorllewin Lloegr Bryste, Prif Ymchwilydd a Chyfarwyddwr Celfyddydau Ymdrochol, yn ystod digwyddiad blynyddol Celfyddydau Ymdrochol, y Peth Mawr, yn Llandudno (9 - 11 Medi). 

Smiling woman with glasses speaking at a podium under stage lights, microphone and blue backdrop behind her

“Rydyn ni wedi gweld yn barod effaith mor ddofn mae rhaglen Celfyddydau Ymdrochol yn ei chael, gan ddenu ceisiadau gan artistiaid o amrywiaeth anhygoel o ddisgyblaethau creadigol, cefndiroedd a phrofiadau byw,” meddai’r Athro McIntosh. “Mae’r sector yn tyfu’n gyflym, gyda chymuned sy'n llawn cysylltiadau ac sy'n hynod gydweithredol yn ymffurfio ledled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.”

Mae'r ail gam yma'n adeiladu ar lwyddiannau a gwersi'r tair blynedd gyntaf, gan gynnig parhad a sefydlogrwydd mawr ei angen i sector celfyddydau ymdrochol gwledydd Prydain. Mae pob un o'r pum ariannwr gwreiddiol a deg partner sefydlu'r consortiwm yn parhau i chwarae rhan, gan adnewyddu eu hymrwymiad i gymuned greadigol gwledydd Prydain, gyda rhwydwaith cynyddol o gydweithwyr byd-eang.

Meddai Ruth McCullough o Watershed, Cynhyrchydd Gweithredol Celfyddydau Ymdrochol: “Rydyn ni'n dechrau gweld effaith cefnogi gweithiau creadigol yn eu camau cynharaf, wrth iddyn nhw gysylltu â chynulleidfaoedd a denu partneriaid o bob cwr o’r byd i wledydd Prydain i ddysgu o’r model yma o arloesedd sy'n cael ei arwain gan artistiaid. 

“Bydd y cyllid yn ein galluogi i adeiladu ar y momentwm, gan gynnig cyfleoedd datblygu gwell i artistiaid sydd wedi bod yn gweithio yn y gofod ymdrochol ers amser maith neu ar raddfa fawr, gan barhau i groesawu’r rhai sy'n dechrau archwilio ym maes celfyddydau ymdrochol. Bydd hefyd yn ein galluogi i weithio ar draws y sector a'r pedair gwlad, i gefnogi ac eiriol dros y ffurf ar gelfyddyd yma a'r ecosystem unigryw o'i chwmpas.”

Wrth siarad ar ran arianwyr y rhaglen, sef Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (UKRI), Cyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Celfyddydau Lloegr, yr Alban Greadigol a Chyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon (ACNI), meddai Cadeirydd Gweithredol Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau a Hyrwyddwr Sector Diwydiannau Creadigol UKRI, yr Athro Christopher Smith: “Mae gan dechnolegau ymdrochol botensial enfawr ar gyfer economi greadigol a diwylliannol gwledydd Prydain, a phwy well i archwilio’r potensial yma na’r bobl greadigol a’r artistiaid a fydd yn ei ddefnyddio yn y pen draw?

“Bydd ail gam Celfyddydau Ymdrochol yn adeiladu ar yr hyn mae’r rhaglen wedi’i gyflawni hyd yn hyn i arddangos sut gallai’r technolegau yma drawsnewid y ffordd mae cynulleidfaoedd yn profi perfformiadau a'r celfyddydau.”

Ochr yn ochr â chyllid uniongyrchol i artistiaid, mae Celfyddydau Ymdrochol yn anelu i chwalu rhwystrau, gan wneud maes sy'n gallu bod yn un cyfyngedig yn llawer mwy hygyrch a chynhwysol i bawb.

Mae tîm ymchwil y rhaglen yn ymwneud â rhai o faterion mwyaf y sector, gan ddarparu gwybodaeth fawr ei hangen ar seilwaith arddangos a dosbarthu, profi cynulleidfaoedd a gwerthuso, arferion dylunio hygyrch a chynhwysol, a'r ecosystemau o ran cyfleusterau a chefnogaeth ar gyfer cynhyrchu ymdrochol yng ngwledydd Prydain. 

Yn y Peth Mawr, fe ddatgelwyd ymchwil newydd a map rhyngweithiol o gyfleusterau cynhyrchu ymdrochol gwledydd Prydain, ochr yn ochr ag adroddiad ‘Gwneud y cysylltiadau: cysylltu cyfleusterau cynhyrchu ymdrochol gwledydd Prydain â'r sector celfyddydol a diwylliannol’.

Screenshot of map of Immersive Arts facilities

Ychwanegodd yr Athro McIntosh: “Nod yr ymchwil yw gwneud rhwydwaith cynyddol gwledydd Prydain o gyfleusterau cynhyrchu ymdrochol yn fwy gweladwy i’r rhai sy’n gweithio yn y sector celfyddydau a diwylliant, a dechrau sgwrs am yr hyn sydd ei angen arnon ni er mwyn ffynnu. Gyda'r cyllid ychwanegol yma, byddwn yn gallu parhau i ddatblygu ymchwil, rhannu gwybodaeth a chreu mwy o gyfleoedd i artistiaid ymwneud â thechnolegau ymdrochol.”

Bydd rhagor o fanylion, gan gynnwys cyfleoedd ariannu sydd i ddod, yn cael eu rhannu yn y Flwyddyn Newydd. I gael rhagor o wybodaeth, cofrestrwch i gael cylchlythyr Celfyddydau Ymdrochol neu ewch i immersivearts.uk/cy. 

Newyddion

Cast perform on stage while holding wooden crates, surrounded by glowing green letter blocks and spotlights.

Newyddion

Rhowch theatr yn anrheg y Nadolig yma

Postiwyd 18 Tach 2026

Newyddion

'IN THESE STONES': Sgwrs rhwng Gwyneth Lewis a Hanan Issa

Postiwyd 13 Awst 2026