Rhowch theatr yn anrheg y Nadolig yma
Gadewch i'ch anwyliaid brofi llawenydd gwylio perfformiadau anhygoel drwy roi tocynnau i un o'r sioeau gwych sydd gennym ar y gweill fel anrheg.
O sioeau cerdd clasurol, i ddawns a dramâu, rydyn ni'n sicr o gael rhywbeth i blesio pawb.
Matilda the Musical
9 Rhagfyr – 17 Ionawr
Wedi'i hysbrydoli gan lyfr poblogaidd Roald Dahl a gyda cherddoriaeth a geiriau gan Tim Minchin, Matilda yw stori merch fach anarferol sydd, gyda'i dychymyg byw a meddwl siarp, yn meiddio sefyll ei thir a newid ei thynged.
Barrylesque: Oh! It's a Parody!
16 Rhagfyr – 2 Ionawr
Daliwch 'mlaen i'ch hetiau papur a'r bybls...
Mae'r sioe ysblennydd cabaret drag yma yn rhoi triniaeth Ynys y Barri llawn i fyd annwyl Gavin & Stacey. Gyda’ch hoff gymeriadau i gyd, wedi’u hailddychmygu fel perfformwyr drag a bwrlésg epig ar gyfer noson o ganu byw, meimio, comedi ac anhrefn. Gallwch chi ddisgwyl ymadroddion bachog eiconig, cymeriadau pryfoclyd a diweddglo cyd-ganu a fydd yn gwneud i bawb godi ar eu traed.
Million Dollar Quartet
26–30 Ionawr
Ar noson 4 Rhagfyr, 1956, aeth pedwar eicon cerddorol i mewn i stiwdio recordio ym Memphis a gwneud hanes cerddorol – Johnny Cash, Jerry Lee Lewis, Carl Perkins ac Elvis Presley. Gyda dros 20 o ganeuon llwyddiannus yn cael eu perfformio ar y llwyfan gan gynnwys: Blue Suede Shoes, Walk The Line, Hound Dog, Great Balls of Fire a llawer mwy.
Gyda Darren Day fel Sam Phillips, y cynhyrchydd gweledigaethol a greodd sain roc a rôl.
The Full Monty
2–6 Chwefror
Weithiau mae rhaid i chi ddatgelu popeth!
Mae Gaz a’i ffrindiau yn anlwcus ac yn teimlo eu bod wedi cael eu taflu ar y domen, ond maen nhw’n benderfynol i ymladd yn ôl a datgelu ychydig yn fwy na fydden nhw erioed wedi meddwl y byddai rhaid iddyn nhw. Archebwch nawr i ail-fyw cerddoriaeth y 90au a mwynhau noson allan yng nghwmni ein grŵp o fechgyn wrth iddyn nhw weithio i gyflwyno sioe orau eu bywydau. Gyda Kevin Clifton fel Gaz.
Blood Brothers
16–20 Chwefror
Wedi'i hysgrifennu gan Willy Russell, mae'r sioe gerdd enwog yma yn adrodd stori gyfareddol ac emosiynol efeilliaid a gafodd eu gwahanu wedi'u geni, sydd yna'n cael magwraeth gwbl wahanol cyn cwrdd eto gan arwain at ganlyniadau proffwydol.
Mae’r sgôr rhagorol yn cynnwys Bright New Day, Marilyn Monroe, Easy Terms a’r gwefreiddiol Tell Me It’s Not True.
Chicago
22–27 Chwefror
Mae'r sioe gerdd fwyaf rhywiol erioed yma am wythnos yn unig ym mis Chwefror gyda'r dawnsiwr proffesiynol o Strictly Come Dancing, Lauren Oakley, fel Roxie Hart, Brenhines Soul y DU, Mica Paris, fel Matron 'Mama' Morton a seren y West End, Adam Garcia, fel Billy Flynn.
Byddai colli allan yn drosedd…
Jesus Christ Superstar
2–13 Mawrth
Beth yw'r sïon?
Mae’r cynhyrchiad West End hynod lwyddiannus o Jesus Christ Superstar, gyda Sam Ryder yn chwarae’r brif rôl eiconig, nawr yn dod i Ganolfan Mileniwm Cymru am bythefnos yn unig.
Mae'r ffenomenon byd-eang yn dilyn y digwyddiadau yn ystod dyddiau olaf Iesu Grist, fel y gwelir drwy lygaid Jiwdas. Yn adlewyrchu ar y gwreiddiau roc a ddiffiniodd cenhedlaeth, mae’r sgôr arwrol yn cynnwys I Don’t Know How to Love Him, Gethsemane a’r gân teitl eiconig ‘Superstar.
Matthew Bourne's Cinderella
16–20 Mawrth
Llundain 1940. Y Blacowt. Mae seiren yn canu…
Wrth wraidd dehongliad epig Matthew Bourne o’r stori dylwyth teg glasurol mae rhamant adeg rhyfel. Mae cyfarfod ar hap yn arwain at noson hudol i Cinderella a’i pheilot ifanc anturlon, gyda’i gilydd am ddigon o amser i syrthio mewn cariad cyn cael eu gwahanu gan arswyd y Blitz.
Mrs Doubtfire
23 Mawrth – 11 Ebrill
Shw'mae, poppets!
Yn seiliedig ar y ffilm boblogaidd, mae'r sioe wirioneddol ddoniol yma yn cynnwys yr holl eiliadau eiconig rydych chi’n dwli arnyn nhw, yn ogystal â chaneuon newydd ardderchog a dawnsio disglair!
Pride and Prejudice* (*Sort of)
13–17 Ebrill
Efallai eich bod chi eisoes yn edrych ymlaen at addasiad newydd Netflix, ond byddwch chi hefyd yn mwynhau'r ffenomenon comedi pum seren yma o'r West End.
Bydd ymladd dros ddynion, arian a meicroffonau yn yr addasiad digywilydd ond annwyl yma, lle mae arian mawr yn y fantol pan mae rhamant yn y cwestiwn. Mae’r cynhyrchiad arobryn yma yn cynnwys llwyth o glasuron pop gan gynnwys Young Hearts Run Free, Will You Love Me Tomorrow ac You’re So Vain.
Yr 1800au yw hi. Mae'n amser parti. Gadewch i'r trefnu priodasau didrugaredd ddechrau.
The Curious Incident of the Dog in the Night-Time
27 Ebrill – 1 Mai
Dyfeisgar, gafaelgar ac emosiynol, mae dirgelwch mwyaf poblogaidd y ganrif yn cyfuno cynllwyn dirgelwch gyda stori bwerus dod i oed.
Mae gan Chris Boone feddwl arbennig ar gyfer rhifau, ond mae'm anghyfforddus gyda natur annisgwyl pobl a bywyd bob dydd. Pan mae ci cymydog yn cael ei ddarganfod yn farw, mae’n dod o dan amheuaeth. Yn benderfynol o brofi ei bod yn ddieuog, mae Chris yn troi’n dditectif ac yn unigolyn drwgddybiedig, sy’n cael ei thynnu i mewn i ddirgelwch sy’n tyfu’n dywyllach ac yn fwy cymhleth gyda phob cliw mae’n ei ddatgelu. Gyda Joe McFadden a Charlie Brooks.
Everybody's Talking About Jamie
1–5 Mehefin
Gyda chast arbennig sy'n cynnwys seren Strictly Come Dancing Joanna Clifton a brenhines Drag Race UK Divina De Campo, peidiwch â cholli'r sioe gerdd ddoniol, wych a thwymgalon yma. Yn cynnwys sgôr gwreiddiol yn llawn caneuon pop cofiadwy gan brif ganwr-cyfansoddwr The Feeling, Dan Gillespie Sells.
Un deg chwech: amser posibilrwydd. Amser i wireddu eich breuddwydion.
Am opsiynau eraill efallai y byddan nhw'n eu mwynhau, edrych ar ein tudalen Digwyddiadur i weld mwy o ddigwyddiadau, gan gynnwys ein profiad ymdrochol presennol FRAMERATE: Pulse of the Earth. A pheidiwch ag anghofio ein siop anrhegion Armadilo, yn llawn nwyddau i'r cartref, gemwaith a mwy y byddan nhw'n dwli arnyn nhw.
Gormod o ddewis?
Mae Tystysgrifau Rhodd yn ddilys am 12 mis a gallwch eu defnyddio ar unrhyw sioe sydd ar y gweill neu ym mariau'r theatr.
Neu i bobl sy'n dwli ar y theatr, edrychwch ar ein haelodaethau. Maen nhw'n cynnig buddion gwych drwy'r flwyddyn fel blaenoriaeth wrth archebu, gostyngiad o 20% ym mariau'r theatr a Ffwrnais, cynigion arbennig ar docynnau a diweddariadau rheolaidd drwy e-bost.
Os ydych chi'n chwylio am rywbeth fwy arbennig, mae enwi sedd yn ein hawditoriwm eiconig yn ffordd unigryw a hirdymor o fynegi eich cariad, dangos edmygedd neu ddathlu bywyd.