Gyrfaoedd a swyddi
Dewch i ymuno â'r tîm a rhoi eich stamp ar gartref creadigol Cymru i bawb.
Ein pobl sy’n dod â’r adeilad yn fyw.
Rydyn ni'n creu pob math o waith, ac am i bob math o bobl weithio gyda ni. Byddem ni wrth ein boddau petaech yn ystyried yr ystod eang o gyfleoedd sydd ar gael gyda ni.
Rydyn ni am i Ganolfan Mileniwm Cymru fod yn gartref i bawb - gan groesawu a chynnwys pawb, ni waeth pa wahaniaethau sydd, gan ddathlu unigolion.
Nod ein proses ymgeisio dienw yw sicrhau bod ein prosesau recriwtio yn gynhwysol ac yn deg, gan roi cyfleoedd i bobl o ystod eang o gefndiroedd. Croesawn geisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.