Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Stiwdios a hyfforddiant arloesol ar gyfer pobl ifanc, gan bobl ifanc. 

Nod Platfform yw cefnogi pobl ifanc i ddatblygu sgiliau gwaith a sgiliau bywyd. Mae’n gartref i’n rhaglen ddysgu creadigol, yn darparu hyfforddiant arbenigol, mynediad i’r diwydiant a lle i ymarfer a datblygu eich gwaith a’ch rhwydwaith.  

Mae’n lle i ddysgu, i greu ac i dyfu. Y llynedd fe wnaethon ni hefyd ddarparu 700 awr o ystafelloedd i bobl ifanc a sefydliadau dan arweiniad pobl ifanc, gan eu cefnogi nhw i danio’u dyfodol. Bydd ein stiwdios newydd yn parhau i fod yn gatalydd i fenter ieuenctid, ac yn fan cychwyn i uchelgais y genhedlaeth nesaf. 

Hyfforddiant sgiliau creadigol 

Rydyn ni’n cynnig dros 20 o weithdai, cyrsiau a phrofiadau dysgu digidol am ddim ym meysydd Perfformio, Cynhyrchu Cerddoriaeth, Radio a XR Digidol. Mae 170 o bobl ifanc wedi cael budd o dros 300 awr o hyfforddiant gydag arbenigwyr y diwydiant.  

Mae ein cyrsiau, a gyd-gynhyrchir â phobl ifanc, yn cael eu harwain gan weithwyr creadigol ar frig eu gyrfa. Maent yn rhoi mynediad heb ei ail i bobl ifanc at wybodaeth a rhwydweithiau’r diwydiant, sgiliau a gydnabyddir yn broffesiynol a chyngor sy’n eu helpu nhw gymryd eu camau nesaf ar drywydd taith creadigol.    

Mae Screen Alliance Wales, ProMo-Cymru, BFI a Welsh Games Academy ymhlith ein partneriaid ar y rhaglen yma. 

Prentisiaethau technegol

Rydyn ni’n darparu hyfforddiant achrededig ar y cyd â’n partner, Coleg Caerdydd a’r Fro. Mae ein rhaglen brentisiaethau yn agored i unrhyw un 16 oed a hŷn, ac yn hyfforddi a meithrin y genhedlaeth nesaf o dechnegwyr theatr, gan fuddsoddi mewn sgiliau a hirhoedledd y sector. Mae ein graddedigion wedi symud ymlaen i ystod eang o swyddi yn y diwydiant theatr a digwyddiadau yma yng Nghymru a ledled y byd.   

Mae Prentisiaid Technegol gyda’i gilydd yn cael budd o 11,000+ awr o waith taledig sy’n rhoi profiadau ymarferol o waith technegol y theatr a thystysgrif Lefel 3 mewn Theatr Dechnegol, gan roi’r cyfle iddynt greu cysylltiadau a rhwydweithiau i gefnogi gyrfa tymor hir yn y diwydiant.   

Gwyliwch ffilm gyda Bethany Davies, prentis blaenorol, a gwrandewch ar ei stori. 

Mae ein Prentisiaethau Ifanc yn cynnig cyflwyniad ehangach i’r celfyddydau creadigol. Maent wedi eu teilwra ar gyfer pobl ifanc 14–16 oed sydd ddim yn cael addysg ffurfiol, neu sy’n ei chael hi’n anodd mynychu addysg ffurfiol.   

Mae 14 o bobl ifanc a fu mewn perygl o adael y system addysg bellach wedi cael budd o fentora ac wedi datblygu sgiliau creadigol sy’n tanio cyfleoedd newydd yn eu bywydau ac yn y byd gwaith.   

Mae pob un o’r bobl ifanc a gymerodd ran yn y rhaglen yma wedi symud ymlaen at lwybrau addysg bellach.   

Mannau Creadigol

Rydyn ni’n credu bod mannau creadigol diogel yn hollbwysig wrth gefnogi pobl ifanc i gyflawni eu potensial.   

Dros y blynyddoedd diwethaf rydyn ni wedi bod yn cydweithio â phobl ifanc i ddatblygu cynlluniau ar gyfer ein stiwdios Platfform newydd, a fydd yn cynnwys gofod perfformio, labordai digidol, cyfleusterau cynhyrchu cerddoriaeth a gorsaf radio newydd a fydd yn caniatáu i 10,000 o bobl ifanc gysylltu, dysgu a thyfu gyda’i gilydd.   

Radio Platfform yw ein gofod creadigol cyntaf dan arweiniad pobl ifanc. 

"Mae Radio Platfform bob amser wedi ymwneud â mwy na dim ond radio; mae’n datblygu pobl ifanc ac yn rhoi cyfleoedd a sgiliau iddynt na fyddai’n hawdd eu canfod yn unrhyw le arall."  

Ben, Intern Radio Platfform

Dan arweiniad pobl ifanc yn llwyr – o’r cynhyrchu i gyflwyno sioeau byw, i’r marchnata a’r cyfryngau cymdeithasol – mae Radio Platfform yn rhoi platfform i bobl ifanc 14–25 oed ddatblygu hyder, darganfod eu llais a mynegi eu hunain.   

Y llynedd fe gwblhaodd dros 80 o bobl ein cwrs cynhyrchu radio achrededig ac fe gynhyrchodd yr orsaf dros 1,200 o ddarllediadau ac fe hwylusodd dros 100 awr o hyfforddi a gweithdai gyda sefydliadau allanol.   

Gwrandewch yn fyw

 

Mentora gyrfaol

Rydyn ni’n rhoi cyfleoedd i gysylltu â gweithwyr proffesiynol y sector drwy fentora, digwyddiadau rhwydweithio a gweithdai, er mwyn cynnig llwybrau i’r diwydiant.  

Gallwn gynnig cefnogaeth a chyngor i’r rheini sydd am gael mynediad at gyfleoedd gwaith neu lwybrau dysgu pellach. Y llynedd fe ddarparon ni 11 o swyddi taledig i bobl ifanc o fewn ein rhaglenni a mannau creadigol.   

Rydyn ni hefyd yn cefnogi lle ar Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol, ac yn hwyluso cyfleoedd i weld gwaith ac ymweld â digwyddiadau’r diwydiant, fel Gŵyl y Gelli a FOCUS Wales. Rydyn ni hefyd yn cefnogi pobl ifanc sydd am greu eu digwyddiadau ein hunain gyda chefnogaeth broffesiynol drwy raglenni fel lockoff yn Llais.  

Profiadau pobl ifanc

Un o’r ffyrdd rydyn ni’n ymwneud â phobl ifanc yw eu gwahodd nhw i brofi ein gofodau a’u creadigrwydd drwy ddigwyddiadau a phrofiadau â chyd-gynhyrchir ganddyn nhw. Y llynedd fe ysbrydolwyd dros 7,000 o bobl ifanc drwy 1,145 o sesiynau. 

Mae ein digwyddiad blynyddol, Dros Nos, yn gwahodd grwpiau ieuenctid a sefydliadau cymunedol i dreulio 24 awr gyda ni yn rhoi cynnig ar sgiliau creadigol newydd, gwylio cynhyrchiad gwreiddiol,  gwrando ar weithwyr creadigol a chysylltu ag eraill yn ein disgo distaw.  

Gwyliwch: Ein digwyddiad Dros Nos

Mae Life Hack, ein partneriaeth â Phlant y Cymoedd, yn rhoi cyfle i bobl ifanc 1625 oed brofi diwrnod ysbrydoledig sy’n llawn dop â gweithdai creadigol a sesiynau mentora gyda gweithwyr proffesiynol y diwydiant. Diwrnod arbennig sy’n helpu pobl ifanc ar ddechrau eu taith yn y sector greadigol.  

Gwyliwch: Diwrnod Life Hack