Skip to main content

Mae Armadilo, sydd wedi’i leoli ar y llawr gwaelod, yn le i ddarganfod anrhegion ystyriol, cynhyrchion prydferth a’r straeon tu ôl iddyn nhw.

O drysorion wedi’u hysbrydoli gan theatr i ddyluniadau Cymreig cyfoes, mae pob eitem wedi cael ei dewis yn ofalus i ddathlu creadigrwydd a hyrwyddo gwneuthurwyr talentog o Gymru a thu hwnt.

P’un a ydych chi’n chwilio am anrheg, yn prynu rhywbeth i chi eich hun neu’n pori, gobeithio y byddwch chi’n dod o hyd i rywbeth sy’n tanio eich dychymyg ac yn dod ag ychydig o lawenydd.

Beth fyddwch chi’n dod o hyd iddo

Mae ein casgliad wedi’i guradu’n ofalus i arddangos creadigrwydd ar bob ffurf.

O emwaith cyfoes a nwyddau i’r cartref i lyfrau, bwyd ac anrhegion wedi’u crefftio â llaw, mae Armadilo yn gwerthu cynhyrchion gan wneuthurwyr annibynnol, brandiau poblogaidd a chydweithredwyr creadigol. Nid yw llawer o’r eitemau a welwch yma ar gael yn unrhyw le arall.

Mae’r cynhyrchion sydd ond ar gael yn Armadilo yn cynnwys:

  • Cannwyll Armadilo, wedi’i chreu gan Florence Green
  • Gemwaith wedi’i greu o lechi wedi’i ailbwrpasu o’n hadeilad, wedi’i greu gan Tŷ Picl
  • Print risograff o Gaerdydd sy’n cynnwys Canolfan Mileniwm Cymru, wedi’i ddylunio gan yr artist Charlotte Hepburn
  • Mêl Cymreig amrwd o’n cychod gwenyn ein hunain

Byddwch chi hefyd yn darganfod cynhyrchion gan amrywiaeth o frandiau a gwneuthurwyr talentog, gan gynnwys Jellycat, Raspberry Blossom, Earth and Elm, Ewemoo, Printed Weird, Jade Fisher, Blasus Welshcakes, Arthouse Unlimited, Melin Tregwynt, House of Marbles, Cyngor Llyfrau Cymru, Halen Môn, Big Metal London ac Eiconig. Mae ein stoc yn newid yn rheolaidd, felly mae wastad rhywbeth newydd i’w ddarganfod.

Mae popeth a brynwch yn gwneud gwahaniaeth

Pan fyddwch chi’n siopa yn Armadilo, rydych chi’n gwneud mwy na chefnogi gwneuthurwyr annibynnol a busnesau creadigol.

Fel rhan o’n helusen, mae popeth a brynwch yn helpu i gefnogi cyfleoedd i bobl ifanc, meithrin doniau creadigol a sicrhau bod Canolfan Mileniwm Cymru yn parhau i fod yn gartref creadigol croesawgar i bawb.

Mae’n un ffordd o fod yn rhan o’r creadigrwydd, cysylltiad a chymuned sy’n gwneud y lle yma yn un arbennig.

Dewch i ymweld â ni

  • Canolfan Mileniwm Cymru, llawr gwaelod
  • Ar agor yn ddyddiol
  • Dilynwch ni ar Instagram: @siop.armadilo