Skip to main content

Mae pob un o'n bariau'n agor awr cyn i'r sioe ddechrau felly os ydych chi'n gweld sioe yn Theatr Donald Gordon, gallwch chi fwynhau diod cyn y perfformiad neu yn ystod yr egwyl yn un o'n bariau theatr trawiadol gyda ffenestri sy'n edrych allan drwy'r llythrennau ar flaen yr adeilad.

Bar Awen ar Lefel 2, ac yn gefndir prydferth iddo mae arysgrif trawiadol yr adeilad; mae Bar Horizons ar Lefel 4 ac mae ganddo olygfa rannol o'r arysgrif – mae'n gyfleus i seddi'r cylch; un o nodweddion Bar Stones yw ei nenfwd crwm anghyffredin ac mae'n agos at seddi'r cylch uchaf.

DIODYDD I’R EGWYL

Gallwch chi osgoi’r ciwiau drwy ragarchebu eich diodydd i’r egwyl gan ddefnyddio’r ddolen yn yr SMS byddwch chi’n ei gael y diwrnod cyn eich ymweliad. Gallwch chi archebu nes i’r sioe ddechrau. Gallwch chi hefyd archebu wrth y bariau ar Lefel 2, 4 a 5 a chasglu eich diodydd o’r silffoedd naill ochr i’r bar.

Ni ellir rhagarchebu diodydd i’r egwyl yn Ffwrnais ar hyn o bryd, ond bydd y bar ar agor fel arfer yn ystod yr egwyl.

Mae aelodau’n cael mwy. Dewch yn aelod heddiw i gael gostyngiad o 20% ar ddiodydd yn Ffwrnais, Caffi a’n bariau theatr.

Gan ein bod yn elusen, mae popeth a brynwch yn Ffwrnais a’n bariau theatr yn helpu i ariannu ein cenhadaeth i roi mynediad gwell i’r celfyddydau i’r rhai sydd ei angen fwyaf.