Ffwrnais
Eich porth i'r celfyddydau.
Yn fwy na chaffi-bar, mae Ffwrnais yn rhan o'n cartref creadigol i bawb.
Mae'n fan lle mae sgyrsiau gwych yn digwydd, syniadau'n ffurfio a phobl yn dod at ei gilydd trwy greadigrwydd, diwylliant a chymuned.
Lle i weithio, cwrdd ac ymlacio
Chwilio am rywle i weithio o bell?
Gyda Wi-Fi am ddim, coffi gwych a phwyntiau gwefru pen bwrdd, mae Ffwrnais yn cynnig lle cyfforddus i setlo a chanolbwyntio. P'un a ydych chi yma am awr neu brynhawn cyfan, mae croeso i chi ymgartrefu yma.
Os ydych chi'n gyrru, gallwch archebu tocyn parcio ymlaen llaw ym Maes Parcio Stryd Pierhead a mwynhau hyd at 11 awr o barcio am £5. Yn syml, mewngofnodwch i'ch cyfrif, dewiswch 'Archebu man parcio' a dewiswch ddyddiad eich ymweliad.
Bwyd a diod
Mae Ffwrnais yn dathlu gwneuthurwyr, cynhyrchwyr a chreadigrwydd Cymreig ym mhob ffurf.
O goffi 96 Degrees a chacennau Pettigrew i wirodydd a jin botanegol wedi'u creu'n lleol, mae ein bwydlen yn arddangos rhai o'r cynnyrch gorau sydd gan Gymru i'w gynnig.
P'un a ydych chi'n galw am frecwast, yn cwrdd â ffrindiau am ddiod neu’n parhau eich noson gyda ni ar ôl sioe, mae rhywbeth i'w ddarganfod bob amser.
Mae ein bwydlen ddiodydd yn cynnwys amrywiaeth o gwrw, gwirodydd ac opsiynau dialcohol a gynhyrchir yn lleol. Os ydych chi'n ymuno â ni ar ôl perfformiad, byddwch yn derbyn gostyngiad o 10% ar ddiodydd pan fyddwch yn dangos eich tocyn. Iechyd da
Mae aelodau'n cael mwy
Ymaelodwch fel aelod a mwynhewch 20% oddi ar ddiodydd yn Ffwrnais ac ar draws ein bariau theatr.
Cefnogi creadigrwydd yng Nghymru
Mae pob ceiniog yr ydych chi’n ei wario gyda ni yn helpu i gefnogi ein gwaith fel elusen.
Pan fyddwch chi'n prynu coffi, rhannu pryd o fwyd neu fwynhau diod gyda ni, rydych chi'n helpu i greu mwy o gyfleoedd i bobl brofi, gwneud a chymryd rhan yn y celfyddydau.
Mae'n un ffordd arall o fod yn rhan o'r creadigrwydd a'r gymuned sy'n gwneud y lle hwn yn arbennig.
Darganfod rhywbeth newydd
Mae Ffwrnais hefyd yn gartref i raglen newidiol o arddangosfeydd sy'n cynnwys artistiaid o Gymru ac artistiaid sy’n byw yng Nghymru.
Mae'n gyfle i ddarganfod safbwyntiau newydd, dathlu creadigrwydd lleol a threulio amser gyda gwaith ysbrydoledig mewn lleoliad hamddenol.
Cymerwch olwg o gwmpas wrth i chi ymweld, a swatiwch ymhlith ein clustogau pwrpasol, a grëwyd gan y gwehydd llaw lleol Llio James.