Skip to main content

Mae creadigrwydd wrth wraidd Canolfan Mileniwm Cymru.

O gynyrchiadau gwreiddiol a straeon ymdrochol i gerddoriaeth fyw, gwyliau a chydweithio creadigol, rydyn ni’n dod â phobl at ei gilydd drwy syniadau pwerus, safbwyntiau ffres a phrofiadau i’w rhannu.

P’un a ydyn ni’n cynhyrchu gwaith newydd, cefnogi doniau Cymreig neu’n creu cyfleoedd i gynulleidfaoedd ddarganfod rhywbeth annisgwyl, credwn y gall creadigrwydd ein hysbrydoli, ein herio a chysylltu ni ag eraill.

Drwy bopeth a wnawn, rydyn ni’n helpu creadigrwydd i ffynnu yng Nghymru a thu hwnt.