Skip to main content

Creu a hyrwyddo straeon Cymreig

Rydyn ni'n cynhyrchu a chyd-gynhyrchu theatr, profiadau ymdrochol a phrosiectau creadigol sy'n cysylltu cynulleidfaoedd â straeon arbennig. Gan weithio gydag artistiaid, cwmnïau a chymunedau, rydyn ni'n helpu i ddod â syniadau newydd yn fyw a chefnogi straeon Cymreig i gyrraedd cynulleidfaoedd yn lleol, yn genedlaethl ac yn rhyngwladol.

O ddatblygu cynyrchiadau newydd sbon i gydweithio ar rai o'r straeon Cymreig mwyaf arwyddocaol i gael eu creu erioed, rydyn ni'n buddsoddi mewn gwaith sy'n adlewyrchu Cymru heddiw ac sy'n helpu i lywio ei dyfodol creadigol.

CYNYRCHIADAU AR Y GWEILL

Barrylesque: Oh It's a Parody (2026)

Sioe ysblennydd cabaret drag yw Barrylesque sy’n rhoi triniaeth Ynys y Barri llawn i fyd annwyl Gavin & Stacey. Gyda’ch hoff gymeriadau i gyd, wedi’u hailddychmygu fel perfformwyr drag a bwrlésg epig ar gyfer noson o ganu byw, meimio, comedi ac anhrefn.

Yn dod i Stiwdio Weston, 16 Rhag – 2 Ionawr 2027

Barrylesque

Cyfarwyddwr: Luke Hereford

Cynhyrchydd Creadigol: Aled Lloyd Rees

Cyd-greadigol a Dylunydd Sain/Gweledol: JD Young, aka Carrot
Cyd-greadigol ac Ysgrifennwr Sgript Gomedi: Mel Owen

Ymwadiad/Hysbysiad Hawliau

Mae Barrylesque: Oh! It’s a Parody! yn gynhyrchiad cabaret parodi gwreiddiol. Nid yw’n ymgysylltiedig â, wedi’i gymeradwyo gan, wedi’i awdurdodi gan, nac yn gysylltiedig â’r BBC, Baby Cow Productions, James Corden, Ruth Jones nac unrhyw greawdwyr, perfformwyr, darlledwyr, cynhyrchwyr, dosbarthwyr na deiliaid hawliau sy’n gysylltiedig â Gavin & Stacey.

Caiff unrhyw gyfeiriadau at deledu, diwylliant poblogaidd, cymeriadau, lleoliadau, ymadroddion neu straeon adnabyddus eu defnyddio at ddibenion parodi, dychanu, clytwaith a sylwebaeth. Ni awgrymir cymeradwyaeth na chydgysylltiad swyddogol.


It's a Sin (Gyd-Gynhyrchydd) (2027)

Cyflwynir gan Rambert a Factory International. Cyd-gynhyrchwyd gyda Chanolfan Mileniwm Cymru (Caerdydd), Capital Theatres (Caeredin), Sadler’s Wells (Llundain) a Les Théâtres de la Ville (Luxembourg).

Wedi’i ysbrydoli gan y gyfres lwyddiannus ganmoledig gan Russell T Davies, wedi’i gyfarwyddo a’i goreograffu gan y Cyfarwyddwr Artistig Benoit Swan Pouffer.

Yn dod i Theatr Donald Gordon, 6–10 Gorffennaf 2027

It's a Sin

Cynyrchiadau diweddar

Owain & Henry (cyd-gynhyrchiad gyda Welsh National Theatre) (2026)

Stori epig am bŵer, hunaniaeth genedlaethol a phris tawelwch. 

Yn 1400, mae Owain Glyndŵr (Michael Sheen), arglwydd tir bach gogleddol mae pobl wedi anghofio amdano, yn cael ei ddatgan yn herwr gan y Brenin Harri IV. Yn hytrach nag ildio i’w dynged, mae Owain yn codi gwrthryfel. Wrth i daniad ei derfysg ledu ar draws y ffin, mae Harri yn ei chael hi’n anodd cadw’r orsedd ac mae’r ddau ddyn yn ffeindio eu hunain ar ochrau cyferbyn hanes; un yn brwydro i oroesi, a’r llall i gael pŵer.

Mae Owain & Henry yn stori epig hanesyddol sy’n llawn pŵer barddonol. Mae’r cynhyrchiad newydd uchelgeisiol yma yn dod ag un o straeon mwyaf diffiniol Cymru yn fyw, lle mae’r frwydr dros fodolaeth cenedl yn y fantol. 

Perfformiwyd 5-28 Tachwedd 2026 yn Theatr Donald Gordon.

Dramodydd: Gary Owen
Cyd-Gyfarwyddwr: Michael Sheen
Cyd-Gyfarwyddwr: Steffan Donnelly

Cyfarwyddwr Cyswllt: Hannah Noone

Cynhyrchydd Gweithredol: Kate Ferris (Canolfan Mileniwm Cymru)

Ôl (2026)

Mae’n 2006. Mewn tref fach yng Ngogledd Cymru, mae Morgan sy’n 16 oed yn sefyll ar ymyl ei ddyfodol, yn ein harwain ni drwy ei filltir sgwâr, cynefinoedd a nosweithiau sy’n aros yn hir ar ôl i’r bws olaf adael.

Y flwyddyn yw 2006, Tony Blair yw’r Prif Weinidog, mae Twitter newydd gael ei lansio, ac mae pobl ifanc yn dod i’r arfer yn gyflym â byd lle mae’r cyfryngau cymdeithasol a thechnoleg yn dechrau cymryd gafael. Mae Morgan, sy’n 16 oed ac yn cael ei leisio gan Steffan Donnelly (Theatr Cymru) a Callum Scott Howells (It's a Sin), yn ceisio deall ble mae’n perthyn, gyda’i daith wedi’i gosod yn erbyn cefndir cymuned yn Llanberis ar droed Eryri.

Wedi’i gyfarwyddo gan Tom Chetwode Barton a Lucy Hammond (Monoliths, Traitor) gyda datblygiad cysyniad ymdrochol gan Dreaming Methods, cawn ein cludo i amser lle mae bydoedd analog a digidol yn gwrthdaro, gan rannu eiliadau o fywyd Morgan wrth iddo deithio drwy’r hynt defod newid byd barddonol yma.

Cafodd Ôl ei gyflwyno gyntaf yng Nghanolfan Mileniwm Cymru (1 Mawrth - 12 Ebrill 2026), yna'r Eisteddfod Genedlaethol yng Ngogledd Sir Benfro (1-8 Awst) cyn y premiere rhyngwladol yng nghystadleuaeth ymdrochol Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Fenis (2-12 Medi), sef y profiad VR gyntaf yn Gymraeg i gael ei ddewis gan yr ŵyl.

Awdur: Tomos Chetwode-Barton
Cyfarwyddwyr: Tomos Chetwode-Barton a Lucy Hammond
Cynhyrchydd: Canolfan Mileniwm Cymru, Pilot Theatre a Dreaming Methods (cyd-gynhyrchiad)

Nye (Cyd-Gynhyrchiad gyda National Theatre)

Breuddwyd un dyn o'r Gwasanaeth Iechyd. O ymgyrchu yn y meysydd glo i arwain y frwydr i greu’r Gwasanaeth Iechyd, cyfeirir at Aneurin ‘Nye’ Bevan yn aml fel y gwleidydd sydd wedi cael y dylanwad mwyaf ar y DU heb erioed fod yn Brif Weinidog.

Yn wyneb marwolaeth, mae atgofion dyfnaf Nye yn ei arwain ar daith ryfeddol yn ôl drwy ei fywyd; o’i blentyndod i gloddio dan ddaear, Senedd San Steffan a dadleuon gyda Churchill mewn ffantasia Gymreig epig.

Michael Sheen (Under Milk Wood) oedd yn chwarae Nye Bevan yn y ddrama yma sy’n ddatganiad dewr a gwerthfawr am y GIG (★★★★ Telegraph). Wedi’i hysgrifennu gan Tim Price (Teh Internet is Serious Business) a’i chyfarwyddo’n ddisglair (★★★★ Times) gan Rufus Norris (Small Island), dyma ddathliad o fywyd a gwaddol y dyn a drawsnewidiodd y wladwriaeth les.

Perfformiwyd 18 Mai - 1 Mehefin 2024 a 22 - 30 Awst 2025 yn Theatr Donald Gordon.

Dramodydd: Tim Price
Cyfarwyddwr: Rufus Norris
Cynhyrchydd: Pádraig Cusack (Canolfan Mileniwm Cymru) a Carly Bawden (National Theatre)

PONTYPOOL (2024)

Yn seiliedig ar y ddrama radio wreiddiol gan Tony Burgess a ysbrydolodd y ffilm arswyd gwlt o 2008, mae PONTYPOOL yn addasiad llwyfan newydd o’r stori a drawsnewidiodd y genre sombi.

Wedi’i addasu i’r llwyfan gan Hefin Robinson a’i gyfarwyddo gan Dan Phillips, gyda dyluniad sain ymdrochol gan Ben Samuels.

Dramodydd: Hefin Robinson (wedi'i addasu o waith Tony Burgess)
Cyfarwyddwr: Dan Phillips
Cynhyrchydd: Canolfan Mileniwm Cymru

Branwen: Dadeni (Cyd-Gynhyrchiad gyda Frân Wen)

Roedd ein cyd-gynhyrchiad gyda Frân Wen, cynhyrchwyr o’r gogledd, yn ailddychmygu’r chwedl glasurol ar gyfer cynulleidfa gyfoes. Roedd yn llwyddiant gyda’n cynulleidfaoedd ar unwaith, a daeth dros 5,500 i’w weld yn ystod ein taith ledled y wlad gan olygu ei fod yn un o'r sioeau cerdd Cymraeg mwyaf a lwyfannwyd erioed. 

Dramodwyr: Hanna Jarman, Elgan Rhys a Seiriol Davies
Cyfarwyddwr: Gethin Evans
Cynhyrchydd: Canolfan Mileniwm Cymru a Frân Wen (cyd-gynhyrchiad)

Es & Flo(2023)

Mae Es & Flo, enillydd y Popcorn Writing Award (2020) a’r Nancy Dean Lesbian Playwriting Award (2022), yn dathlu cariad perthynas lesbiaidd hŷn, menywod yn dod at ei gilydd i ymladd dros beth sy'n iawn, a phŵer iachaol teulu dewisol. Yn dilyn rhediad yn y Stiwdio Weston, trosglwyddodd y ddrama i’r Kiln Theatre yn Llundain. 

Dramodydd: Jennifer Lunn
Cyfarwyddwr: Susie McKenna
Cynhyrchydd: Canolfan Mileniwm Cymru

The Making of A Monster (2022)

★★★★

"Thrilling ambition."

THE STAGE

Stwnsh grime-theatr gan Connor Allen  

Ar gyfer The Making of a Monster, cafodd ein Stiwdio Weston ei drawsnewid yn ofod eclectig lle aeth Connor Allen, Children’s Laureate Wales, â chynulleidfaoedd yn ôl i’w blentyndod fel plentyn hil gymysg mewn perygl o golli rheolaeth, a'r un eiliad a newidiodd ei fywyd.   

Gan ymgorffori cerddoriaeth fyw, tafluniadau, barddoniaeth a symudiad, rhannodd y sioe stori bachgen o Gasnewydd â thad Du absennol, yn osgoi’r heddlu ac yn ceisio gweithio allan beth mae bod yn ddyn yn ei olygu.

Wedi’i greu o ddiwylliant grime a’i ysbrydoli gan Dizzee Rascal, Wiley, Skepta a Kano, dyddiadau’r cynhyrchiad oedd 9–19 Tachwedd 2022.

Dramodydd: Connor Allen
Cyfarwyddwr: Conrad Murray
Cynhyrchydd: Canolfan Mileniwm Cymru

Grandmother's Closet (2022)

Anthem (2022)

The Boy With Two Hearts (2021)

The Beauty Parade (2020)

RED (2019)

The Mirror Crack'd (2019)

Cer i Grafu...Sori... Garu! (2018)

Double Vision (2018)

Highway One (2018)

Tiger Bay the Musical (2017)

Only the Brave (2016)

Dinas yr Annisgwyl (2016)

Man to Man (2015)