Cabaret
Cartref Caerdydd ar gyfer yr annisgwyl.
Camwch i mewn i Cabaret, lle mae syniadau dewr, perfformiadau bythgofiadwy a nosweithiau allan gwych yn dod at ei gilydd.
O drag disglair a chomedi hynod ddoniol i bwrlésg, cerddoriaeth fyw a theatr sy'n herio genre, mae Cabaret yn le i artistiaid, cynulleidfaoedd a chymunedau gysylltu drwy greadigrwydd. Mae pob ymweliad yn cynnig rhywbeth gwahanol, p'un a ydych chi'n darganfod hoff act newydd neu'n dychwelyd ar gyfer noson rydych chi'n gwybod y byddwch chi'n ei mwynhau.
Yn Cabaret, mae pawb yn perthyn. Mae'n le i ddathlu creadigrwydd, cofleidio hunan-fynegiant a rhannu priofiadau ag eraill. P'un a ydych chi'n ymwelydd rheolaidd neu'n ymuno â ni am y tro cyntaf, byddwch chi'n dod o hyd i groeso cynnes a gofod sy'n eich gwahodd chi i fod yn chi eich hun.
Cyn eich ymweliad, cymerwch olwg ar reolau'r tŷ, sy'n helpu i wneud Cabaret yn ofod diogel, cynhwysol a dymunol i bawb.
Dilynwch yr hwyl yn @cabaret.wmc i gael newyddion am y sioeau diweddaraf, digwyddiadau arbennig ac eiliadau tu ôl i'r llen.