Skip to main content

Rydyn ni'n credu y bydd darganfod ffurfiau newydd o adrodd straeon yn galluogi mwy o bobl i gysylltu â straeon mewn ffyrdd newydd a gwahanol.

Rydyn ni'n curadu a chreu rhaglen o waith digidol sy'n gwthio ffiniau realiti a phosibilrwydd ac yn cefnogi artistiaid i archwilio eu hymarfer drwy blatfformau a thechnolegau amgen.

Bocs yw ein gofod pwrpasol ac arloesol sy'n cyflwyno newidiol sy'n dod â phrofiadau ymdrchol a digwyddiadau realiti ymestynnol (XR) arobryn i Gymru. Rydyn ni hefyd wedi cynhyrchu ein profiadau ac arddangosfeydd digidol ein hunain i gyd-fynd â'n cynyrchiadau fel Ripples of Kindness ar gyfer The Boy with Two Hearts a The Museum of Nothingness ar gyfer The Making of a Monster. 

Dilynwch @annwnimmersive.wmc

Celfyddydau Ymdrochol

Yn 2024 daethom yn bartner mewn prosiect ledled y DU sy'n cael ei ariannu drwy grant £6 miliwn a fydd yn cefnogi dros 200 o artistiaid yn y DU i ddarganfod posibiliadau technoleg ymdrochol.

Dros dair blynedd bydd y prosiect yn rhoi mynedad i artistiaid i'r adnoddau a'r hyfforddiant sydd eu hangen arnyn nhw i fanteisio ar botensial y technolegau creadigol yma sy'n esblygu a datblygu yn gyflym.  

Fel un o'r pedwar partner cynhyrchu sy'n cynrychioli holl genhedloedd y DU, rydyn ni yng nghwmni Watershed yn Lloegr, stiwdios traws-ffurfiau celf Nerve Centre yng Ngogledd Iwerddon a Cryptic a chyfleusterau partner yn yr Alban. Bydd y prosiect yn cael ei arwain gan Pervasive Media Studio (PMStudio), partneriaeth rhwng Watershed, UWE Bryste a Phrifysgol Bryste. 

Mae cyllid Celfyddydau Ymdrochol yn dod o bartneriaeth unigryw rhwng Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau, Arts Council England, Creative Scotland, Arts Council of Northern Ireland a Chyngor Celfyddydau Cymru.

Dysgwch fwy


Partneriaeth Rhwydwaith IDA

Yn 2023 fe sefydlon ni bartneriaeth gyda Rhwydwaith Ida i greu hwb newydd yng Nghymru, 'HWB Ida', a lansiodd yn 2024.

Mae Rhwydwaith Ida yn gymuned i ddathlu a chroesawu menywod, pobl anneuaidd a phobl draws o fewn y sector XR ymdrochol. Mae'n ofod diogel a chynhwysol i gwrdd â phobl newydd, gwneud cysylltiadau newydd neu hyd yn oed dechrau prosiect cydweithio neu fenter newydd.

Mae HWB Ida yn ofod ffisegol a rhithiol – rydyn ni'n cynnal digwyddiadau wyneb yn wyneb, yn ogystal â rhannu newyddion, blogiau a chyfleoedd â'n cymuned sy'n tyfu.

I gael y newyddion diweddaraf am HWB Ida ac i gael eich ychwanegu at ein rhestr e-bost, anfonwch eich enw a'ch cyfeiriad e-bost i ida.hwb@wmc.org.uk.

Ffeindiwch ddigwyddiadau Hwb Ida yn annwnimmersive.wmc