Skip to main content

Glanfa

Glanfa yw ein gofod perfformio cyhoeddus mwyaf a chaiff ei ddefnyddio ar gyfer amrywiaeth o berfformiadau, digwyddiadau, gosodweithiau celf, arddangosfeydd a gweithgareddau crefft i’r teulu am ddim.

Wales Millennium Centre at Bute Place, Cardiff, CF10 5AL ,GB

Glanfa yw ein gofod perfformio cyhoeddus mwyaf a chaiff ei ddefnyddio ar gyfer amrywiaeth o berfformiadau, digwyddiadau, gosodweithiau celf, arddangosfeydd a gweithgareddau crefft i’r teulu am ddim.

Mae’r gofod mawr, agored ac amlbwrpas wedi’i leoli ar y llawr gwaelod a gellir ei gyrraedd o’r mynedfeydd ym mlaen a chefn yr adeilad.

Yn y gofod mae toiledau, cyfleusterau newid babanod a lifftiau hygyrch a’n siop anrhegion Armadilo.

Os bydd chwant bwyd arnoch neu os byddai’n well gennych rywbeth cryfach yna mae digon o ddewis yn Bar One neu'n Ffwrnais.

Hefyd, Glanfa yw cartref ein gorsaf radio sydd wedi’i harwain gan bobl ifanc, Radio Platfform, Stiwdio Scratch, galeri a lle am pobl ifanc creadigol a sefydliadau elusennol eraill sy’n gweithio yma fel Tŷ Cerdd a Two Rhythms.

Eich ymweliad