Gyda hyd at 140 o seddi, bydd ein llwyfan cabaret newydd yn cyflwyno'r goreuon o'r bydoedd drag, comedi, bwrlésg, cerddoriaeth fyw a pherfformiadau geiriau llafar, gan gynnig talent newydd ac amrywiol fel nunlle arall yng Nghymru.
Os fuoch chi'n chwerthin yn Lovecraft (Not the Sex Shop in Cardiff), yn crïo yn Grandmother's Closet (and What I Found There...) ac yn cochi ar ddrygioni XXXmas Carol, byddwch chi wrth eich bodd â'r hyn fydd ar gael yn y gofod newydd hwn. Dewch i gael blas gyda'n sioe cabaret Nadoligaidd eleni, The Lion, The B!tch and The Wardrobe.