Stiwdio Weston
Lleoliad bach yw Stiwdio Weston, sy'n berffaith er mwyn cael teimlad agos-atoch a phersonol yn ystod cynyrchiadau bach, gwaith theatr o fri, a cherddoriaeth wych.
The Weston Studio is located inside the Wales Millennium Centre at Bute Place,
Cardiff,,
CF10 5AL
,GB
Enwyd y stiwdio ar ôl teulu Weston, a roddodd £2.25 miliwn i'r Ganolfan Mileniwm Cymru, ac i'w chyrraedd mae angen mynd i fyny'r grisiau neu'r lifft i Lefel 1 o gyntedd y Lanfa.
Mae ganddi gapasiti o 250, ond nid yw'r seddi wedi'u rhifo, felly dylech gyrraedd yn gynnar os hoffech ddewis eich sedd.
Yn ystod Llais, mae'r Stiwdio Weston yn cyflwyno perfformiadau agos-atoch gan dalent leol ac artistiaid sy'n cael eu cydnabod yn rhyngwladol.
Rydyn ni hefyd wedi cynnal cynyrchiadau theatr sydd wedi cael llawer o ganmoliaeth yn y wasg yn y stiwdio hefyd, megis drama gwlt Phoebe Waller-Birdge, Fleabag, a Minefield gan Lola Arias.