Skip to main content

Theatr Donald Gordon

Ein prif ofod, Theatr Donald Gordon, yw’r llwyfan mwyaf ond un yn Ewrop, ac mae ymhlith theatrau gorau’r byd.

Canolfan Mileniwm Cymru, Plas Bute, Caerdydd, Wales CF10 5AL ,GB
Singer on stage with arms raised as cheering crowd claps in dimly lit theatre, coloured spotlights overhead.

Mae’n croesawu cynyrchiadau o safon fyd-eang, gan gynnwys sioeau cerdd llwyddiannus yn syth o’r West End, cynyrchiadau gwefreiddiol Opera Cenedlaethol Cymru, dawns, drama a mwy.

Enwyd y theatr ar ôl ei noddwr - y diweddar Donald Gordon, gŵr busnes o Dde Affrica a roddodd £10m i Ganolfan Mileniwm Cymru. Mae’r theatr ‘lyric’ odidog yn llwyfan i’r genedl, sy’n cyflwyno digwyddiadau rhyngwladol o bwys wedi’u gwreiddio yn ein diwylliant cenedlaethol.

Eich Ymweliad