Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Darlun o berson yn gwisgo penset VR gyda phatrymau lliwgar yn ffrwydro allan o'i ben

Arcêd

Rhad ac am ddim · Byd o brofiadau ymdrochol

Bocs

21 Awst – 3 Medi 2023

Bocs

Arcêd

Rhad ac am ddim · Byd o brofiadau ymdrochol

21 Awst – 3 Medi 2023

Bocs

Yn galw ar bobl sy’n hoff o adrodd straeon digidol ac archwilwyr rhwng 13 a 113 oed!

Dewch i Arcêd yn Bocs yr haf yma ac archwiliwch fyd o brofiadau ymdrochol gan ddefnyddio’r technolegau datblygol diweddaraf.

Mae gennym dri byd unigryw i chi eu harchwilio – amgueddfa VR LHDTC+; profiad VR sy’n eich telegludo i gefnforoedd, coedwigoedd a dinasoedd y dyfodol; a darn sain ymdrochol sy’n holi beth yw’r pris fyddech chi’n fodlon ei dalu am fywyd tragwyddol.

Yn newydd i brofiadau ymdrochol? Peidiwch â phoeni, bydd tîm Bocs yno i’ch helpu.

Rhowch gynnig ar un, dau neu bob un! Mae’n rhad ac am ddim.

LGBTQ+ VR Museum

Y prosiect VR rhyngweithiol yma yw amgueddfa realiti rhithwir cyntaf y byd. Mae’r amgueddfa yn cynnwys sganiau 3D o arteffactau personol a ddewiswyd gan bobl yn y gymuned LHDTC+, gyda straeon wedi’u hadrodd yn eu geiriau eu hunain. Mae’n ymroddedig i ddiogelu hanesion cwiar personol.

Cyflwynwyd yr LGBTQ+ VR Museum yn Bocs yn wreiddiol ym mis Tachwedd 2022. Yn dilyn galw mawr rydyn ni wrth ein bodd i fod yn dod â'r prosiect yn ôl ar gyfer Arcêd yr haf yma.

Hyd: 20–30 munud
Iaith: Saesneg gydag isdeitlau Saesneg

CLODRESTR

Gan Antonia Forster
Cyd-greawdwr: Thomas Terkildsen
Cynhyrchydd: Albert Millis

Museum of Imagined Futures

Camwch i mewn i’r Museum of Imagined Futures, profiad rhithwir sy’n arddangos rhagfynegiadau ar gyfer y dyfodol ac yn galluogi ymwelwyr i gamu ymlaen mewn amser i gael cipolwg o sut y gallai bodau dynol a thechnoleg fyw mewn cydbwysedd gyda natur.

Gallwch chi delegludo rhwng bydoedd rhithwir, darganfod ‘swigod’ archif o’r gorffennol ac archwilio sut olwg gallai fod ar weledigaeth gyfannol ar gyfer ein cefnforoedd, coedwigoedd a dinasoedd mewn 50 mlynedd.

Hyd: 20 munud
Iaith: Saesneg gydag isdeitlau Saesneg

CLODRESTR

Cynhyrchiad Indigo Storm mewn cydweithrediad â Studio ANRK

Wedi’i gomisiynu a’i ariannu gan StoryFutures ac AHRC fel rhan o’r Creative Industries Clusters Programme

Mewn partneriaeth â BFI a BBC ac mewn cydweithrediad ag Unboxed

Cyfarwyddwr Creadigol: Shehani Fernando
Arweinydd Technegol: Anrick Bregman
Academyddion: Dr Harriet Hawkins, Dr Rachael Squire
Prif Ddatblygydd: Lucy Wheeler
Sgript: Shehani Fernando, Michelle Collier, Eva Tausig
Dyluniad 3D: Anthony Attwood, Emeka Malbert
Datblygwyr: Anthony Attwood, Hankun Yu, Maggie Shelton, Maf'j Alvarez, Federico Fasce
Ymgynghorydd UX: Allison Crank
Dyluniad Cysyniad Cynnar: Rosie Emery
UI a Dyluniad: Evelin Eilmess
Dyluniad Sain a Cherddoriaeth: Virginia Leo
Ymchwil: Eva Tausig, Michelle O’Higgins Teilman
Profi: Alysha Nelson

Diolch arbennig i: Richard Hemming, Brian Marshall, Simon Barratt, Ollie Lindsey, Adam Child

ETERNAL

“I want you to believe... to believe in things that you cannot.” – Bram Stoker

Rydych chi wedi cael eich dewis ac rydyn ni’n diolch i chi am eich aberth. Fel cydnabyddiaeth, rydyn ni’n cynnig cyfle i chi gael bywyd tragwyddol – ond mae amodau. Gallech chi, wrth gwrs, aros i weld beth fydd yn y dyfodol. Gallech chi fentro y bydd triniaeth ar gyfer marwoldeb. Mae’r driniaeth yn dod, ond ddim yn ddigon cyflym i chi.

Profiad sain ymdrochol 20 munud yw ETERNAL i un person, ar ei ben ei hun yn ei wely. Mae’n archwilio penbleth bywyd tragwyddol ac yn dyfalu pa bris fyddech chi’n ei dalu i’w gyflawni.

Hyd: 23 munud
Iaith: Saesneg
Rhybuddion: Profiad mewn tywyllwch llwyr. Y bwriad yw codi ofn ar bwyntiau.

CLODRESTR

Gan DARKFIELD
Perfformiwr: Lloyd Hutchinson
Cyfarwyddwyr: David Rosenberg a Glen Neath
Awdur: Glen Neath
Sain a Thechnoleg: David Rosenberg
Cynhyrchydd: Victoria Eyton
Cydlynydd Cynhyrchu: Sara Codrington
Delweddaeth: Alex Purcell
Comisiynydd: Bram Stoker Festival

"It’s just brilliant to see these immersive opportunities being presented and made available for everyone."

YMWELYDD Â BOCS

Amseroedd agor:
Llun – Sad 11am – 6.30pm (mynediad olaf 6pm)
Sul 11am – 4.30pm (mynediad olaf 4pm)

Does dim angen archebu.

Hyd: Dylech ganiatáu o leiaf awr a 30 munud os hoffech chi roi cynnig ar y tri phrofiad.

Capasiti: Mae capasiti pob profiad yn gyfyngedig felly mae’n bosibl y bydd rhad aros pan fydd hi’n brysur.

Oed: 13+. Rhaid i bobl o dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn.

BETH YW PROFIAD REALITI RHITHWIR?

Realiti rhithwir (VR) yw’r defnydd o dechnoleg gyfrifiadurol i greu byd efelychiadol. Mae gwesteion yn gwisgo penwisg gyda chlustffonau integredig dros eu clustiau.

OES ANGEN ARCHEBU LLE?

Mae hwn yn brofiad cerdded i mewn rhad ac am ddim, does dim angen archebu.

OES ANGEN I MI DDOD AG UNRHYWBETH?

Gellir gwisgo sbectol o dan y benwisg VR ond efallai bydd yn fwy cyfforddus i chi wisgo lensys cyffwrdd neu beidio â gwisgo’ch sbectol yn ystod y profiad.

BETH YW’R MESURAU IECHYD A DIOGELWCH?

Dyw’r rhan fwyaf o bobl ddim yn profi unrhyw ymatebion negyddol i Realiti Rhithwir (VR). Fodd bynnag, gall VR fod yn ddryslyd ar gyfer unigolion sy’n niwroamrywiol, sydd ag amhariadau clywedol neu weledol, neu sy’n profi’r bendro, epilepsi, penysgafnder, salwch teithio neu lewygu.

Os ydych chi’n feichiog neu os oes gennych reoliadur y galon, siaradwch â’ch meddyg teulu cyn cymryd rhan.

Bydd hwyluswyr wedi’u hyfforddi wrth law i roi cymorth ac arweiniad yn ystod y profiad os bydd angen.

Rydyn yn glanhau a diheintio’r holl offer, gan gynnwys penwisgoedd a chlustffonau, yn drylwyr â weipiau gwrthfacteria o safon ysbyty a pheiriant UV cyn pob defnydd. Gofynnir i chi ddefnyddio’r diheintydd dwylo a ddarperir wrth gyrraedd.

Rhaid i bobl o dan 16 oed fod yng nghwmni rhiant neu warcheidwad, ac ni argymhellir VR i bobl o dan 13 oed.

Ni chanteir babis mewn gwregys yn y profiad.

Ni chanteir i unrhyw westeion sy’n cyrraedd ar gyfer y profiad gymryd rhan dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.

 

Darlun gan Phil Morgan

A VR headset resting on the floor with neon lights in the background

Cyflwynir yn

Bocs