Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Gyrfaoedd a swyddi

Mae’r bobl sy’n gweithio yma yn helpu i danio’r dychymyg a chreu profiadau hudol i bobl Cymru a thu hwnt. Mae llu o gyfleoedd ar gael – o swyddi i gyfleoedd llawrydd a gwirfoddol.

Dewch o hyd i'r swyddi gwag diweddaraf

Ein pobl

O’r Criw Ieuenctid sy’n ein dwyn ni i gyfrif ar ran cenedlaethau’r dyfodol i’n bwrdd o ymddiriedolwyr ysbrydoledig a’r uwch dîm rheoli sy’n llywio ein strategaeth – darganfyddwch fwy am y bobl sy’n arwain ein cartref creadigol i bawb.

Dewch i gwrdd â'r tîm

Ein preswylwyr

Rydyn ni’n gartref i wyth o breswylwyr creadigol anhygoel, gan gynnwys Opera Cenedlaethol Cymru, Llenyddiaeth Cymru a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Rydyn ni’n cefnogi’n preswylwyr drwy roi rhent gostyngol iddynt sydd werth £2 filiwn y flwyddyn.

Dewch i gwrdd â'n preswylwyr

Ein hadeilad

Yr arysgrif barddonol sy’n llywio’n gweledigaeth a’r defnydd o ddeunyddiau cynaliadwy; datgelwch stori a chyfrinachau ein hadeilad eiconig.

Datgelwch gyfrinachau eicon