Canolfan Mileniwm Cymru yw cartref y celfyddydau yng Nghymru, rydyn ni’n gweithio’n galed i sicrhau y medrwn ailagor cyn gynted â phosibl unwaith bydd y pandemig Coronafeirws drosodd; er mwyn dod â llawenydd a chreadigrwydd yn ôl i gyfoethogi bywydau unwaith eto.
O ganlyniad i gau ein hadeilad, rydyn ni wedi colli holl incwm o werthiant tocynnau, felly mae gwir angen eich cefnogaeth arnom.
Cefnogi ni
Mae 85% o’n refeniw arferol yn dod o werthiant tocynnau, felly mae angen cyllideb ar frys arnom er mwyn parhau gyda’n gwaith elusennol, sy’n cynnwys:
- Darparu cyfleoedd i bobl ifanc, yn cynnwys gweithdai a hyfforddiant ar gyfer y diwydiannau creadigol.
- Meithrin doniau o Gymru, o syniadau sgript i berfformiadau.
- Gweithio gyda chymunedau, sicrhau bod y celfyddydau yn agored i bawb, cynnig tocynnau am ddim a thocynnau am bris gostyngol a rhoi gofod i ddathliadau megis gwleddoedd cymunedol.
Sut gallwch chi helpu
- Os oes gennych chi docyn ar gyfer perfformiad sydd wedi’i ganslo, beth am gyfrannu cost y tocyn - yn rhannol neu’n llawn? Bydd y cyfraniad yn gymwys ar gyfer Rhodd Cymorth.
- Prynwch daleb rhodd i’w ddefnyddio ar gyfer perfformiadau yn y dyfodol pan fyddwn ni wedi ailagor. Mae talebau rhodd yn ddilys ar gyfer 18 mis.
- Adnewyddwch neu ymunwch â’n cynlluniau aelodaeth Ffrind neu Bartner. Nid yn unig y byddwch chi’n ein helpu ni, ond byddwch chi hefyd yn cael archebu â blaenoriaeth ar gyfer y sioeau sy’n mynd ar werth tra’n bod ni ar gau. Unwaith y byddwn ni wedi ailagor fe gewch chi fwynhau buddion ar hyd y flwyddyn.
- Prynwch docyn ar gyfer sioe sy’n digwydd yn hwyrach ymlaen eleni. Ewch i’n tudalen Digwyddiadur am fwy o fanylion.
- Byddem yn croesawu unrhyw gyfraniad, boed yn fach neu’n fawr.
Rydyn ni’n gwybod bod hwn yn gyfnod anodd i bawb, ond os gallwch chi ein helpu mewn unrhyw ffordd byddwch yn gwneud gwahaniaeth go iawn i’r hyn y gallwn ni ei gynnig pan fyddwn ni’n ailagor.
Diolch
Diolch yn fawr i’n cwsmeriaid anhygoel a’n cymuned sydd wedi ein cefnogi hyd yn hyn. Ni allwn wneud y gwaith yma heboch chi.
Helpwch ni ddiogelu ein dyfodol fel cartref creadigrwydd yng Nghymru, drwy gyfrannu heddiw.
Cofiwch ddewis Rhodd Cymorth yn eich basged er mwyn i'ch cyfraniad fynd 25% yn bellach.