Fel aelod Partner, byddwch yn ein helpu i gyrraedd mwy o bobl ifanc drwy ein rhaglenni maes ac addysg sy’n trawsnewid bywydau; creu mwy o’n cynyrchiadau ein hunain gydag egin artistiaid o Gymru; ac yn ein galluogi i ehangu ar fynediad i’r celfyddydau drwy gynllun tocynnau cymunedol, perfformiadau hygyrch a drwy ddatblygu gwaith i gynulleidfaoedd newydd.
Rydyn yn cynnig dwy lefel o aelodaeth Partner: Partner a Phartner Awen. Er mwyn cydnabod eich cefnogaeth hael, gallwch fwynhau’r buddion ecsgliwsif canlynol.
PARTNER
- Mynediad i’r seddi gorau cyn pawb arall (ac eithrio Opera Cenedlaethol Cymru), wedi'u cadw hyd at ychydig wythnosau cyn ein perfformiadau mwyaf
- Gwahoddiad i ddau ddigwyddiad arbennig y flwyddyn
- Mynediad i’n bar a lolfa breifat i aelodau, Copr
- Cydnabyddiaeth o’ch cymorth ar blatfformau digidol amrywiol
- Diweddariadau rheolaidd drwy e-bost am ein gwaith, sioeau sydd ar ddod, digwyddiadau a chynigion tocynnau
- Gostyngiad o 20% ar fwyd a diod yn Ffwrnais, Caffi, Teras, Copr a'n bariau theatr gyda'ch cerdyn aelodaeth digidol
PARTNER AWEN
HOLL FUDDION AELODAETH PARTNER, YN OGYSTAL Â:
- Gwahoddiad i daith cefn llwyfan pan fyddwch yn ymuno
- Mynediad i’r seddi gorau cyn unrhyw un arall, gan gynnwys perfformiadau Opera Cenedlaethol Cymru, drwy wasanaeth bersonol dros y ffôn
- Gwahoddiad i ddigwyddiad ecsgliwsif i aelodau Partner Awen
- Cydnabyddiaeth o'ch cefnogaeth mewn ardal gyhoeddus yn ein hadeilad, ar ein gwefan ac yn ein cyhoeddiadau
CYSYLLTU Â NI
datblygu@wmc.org.uk
029 2063 6423
CYLCH Y CADEIRYDD
Byddwch yn llysgennad y celfyddydau yng Nghymru
PROSIECTAU Y GALLWCH CHI EU CEFNOGI
MAE CYMRU ANGEN CREADIGRWYDD YN AWR YN FWY NAG ERIOED. OS GALLWCH CHI,