Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Byddwch yn rhan o’n hanes a helpwch i danio ein dyfodol. 

Dewiswch eich sedd

Gyda rhodd o £200, gallwn ni eich cydnabod chi neu anwylyd gydag arysgrif bersonol ar sedd o’ch dewis. Yng nghwmni pobl nodedig fel Michael Ball, Ioan Gruffudd a Max Boyce, sydd wedi gadael eu hôl drwy enwi seddi, gallwch chi hefyd fod yn rhan o hanes cyfoethog ein theatr. Mae’n rhodd unigryw i chi eich hun, aelod o’r teulu neu ffrind, i ddathlu digwyddiad arwyddocaol neu gofio adeg arbennig, neu efallai er cof am anwylyd.  

Caiff eich rhodd ei hysgythru ar blac a’i rhoi ar gefn eich dewis sedd yn yr awditoriwm. Byddwch chi hefyd yn cael tystysgrif goffa. 

  • Rhes Ddathlu: £750
  • Seddi’r Lawr: £500
  • Cylch: £300
  • Cylch Uchaf: £200

“...[mae’n] ffordd hyfryd o anrhydeddu’r person rydych chi’n ei garu, p’un a ydyn nhw yma o hyd neu beidio… I unrhyw un sy’n ystyried enwi sedd ar ran anwylyd, fydden i’n dweud ewch amdani.” 

ALEXANDRA LEWIS

My Gran - Agnes Lillian Davies. An inspiration.

Michael Ball

Wrth gyflwyno’r rhodd yma byddwch chi’n cefnogi ein gwaith elusennol, gan ein galluogi ni i barhau â’n prosiectau Dysgu Creadigol trawsnewidiol, darparu rhaglen arbennig o gynyrchiadau a chreu atgofion bythgofiadwy i’n cynulleidfaoedd. 

*Nodwch nad yw’r pecyn yma yn cynnwys unrhyw hawliau archebu ar gyfer y sedd a enwir. Mae cyfyngiad o 45 o nodau ar bob arysgrif. Bydd yr arysgrif yn para 10 mlynedd o’r dyddiad gosod. Gall gymryd hyd at 30 diwrnod gwaith i osod arysgrifau a drefnir ar-lein. Byddwn yn gofyn i chi a hoffech chi adnewyddu pan fydd 10 mlynedd bron ar ben. Mae’r seddi yn amodol ar argaeledd a chânt eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin. Byddwn ni’n rhoi cymeradwyaeth derfynol i’r neges. 

I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch ein Tîm Rhoddion Unigol ar 02920 636423 neu e-bostiwch cefnogwyr@wmc.org.uk