Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Mae croeso i chi gysylltu â ni yn Gymraeg neu'n Saesneg, a byddwn yn hapus i ymateb heb oedi yn eich iaith ddewisol yn unol â'n hymrwymiad iaith.

DRWY GWE-SGWRS

Gallwch gysylltu â ni yn uniongyrchol o'r wefan hon drwy glicio ar y botwm oren sy’n dweud ‘ALLWN NI HELPU?’ yng nghornel chwith eich sgrin.

Bydd Cynorthwywyr Cysylltiadau Cwsmer ar gael i ateb unrhyw ymholiadau drwy we-sgwrs rhwng 10am a 4pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio gwyliau banc).

Os ydych chi’n cysylltu â ni y tu allan i oriau, neu os yw pob un o’r tîm yn brysur yn helpu cwsmeriaid eraill, mae SgwrsFot sy’n gallu ateb ymholiadau syml.

AR Y FFÔN

Mae ein llinell ffôn i gwsmeriaid (ar gyfer cwsmeriaid sydd ddim yn gallu archebu ar-lein) ar agor rhwng 12pm a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Gallwch ein ffonio ar 029 2063 6464. 

Ein gwefan yw'r ffordd gyflymaf o archebu tocynnau a gweld pa seddi sydd ar gael. 

DRWY EBOST

Yn dibynnu ar eich ymholiad, mae'n bosibl yr hoffech gysylltu â ni drwy un o'r cyfeiriadau e-bost isod. Caiff y mewnflychau yma eu monitro o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 10am a 4pm.

YMWELD Â NI

Canolfan Mileniwm Cymru
Plas Bute, Caerdydd, CF10 5AL