Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Fel canolfan fawr sy’n denu 1.8 miliwn o ymwelwyr blynyddol ac sy'n gweithredu fel campws diwylliannol a chartref i sawl sefydliad arall, rydyn ni’n cydnabod bod ein gweithrediadau a'n gweithgareddau yn cael effaith ar yr amgylchedd.

Rydyn ni’n cydnabod yr argyfwng hinsawdd a'r angen i bob un ohonon ni weithredu. Rydyn ni’n cymryd ein cyfrifoldeb o ddifri ac yn gweithio i sicrhau ein bod yn gweithredu mewn ffordd gynaliadwy, gan leihau gwastraff a chadw at arferion gorau.

PWERU 1,900 O SEDDI

Yn ystod 2021, gan weithio gyda Joju Solar, gwnaethom ni osod paneli solar ar ein to am y tro cyntaf, gan leihau ein hôl troed carbon.

Mae’r pŵer solar rydyn ni’n ei gynhyrchu yn cyfateb i 10% o’r ynni trydanol rydyn ni’n ei ddefnyddio bob blwyddyn (yn seiliedig ar ffigurau cyn COVID o 2019) ac mae’r generadiad blynyddol o 192,922 o oriau cilowat yn fwy na digon i bweru gweithgareddau llwyfan ein Theatr Donald Gordon, sydd â 1,900 o seddi, bob blwyddyn dros y 25 mlynedd nesaf.   

“Fel adeilad eiconig ym mhrifddinas Cymru, mae’n bwysig i ni ein bod ni’n hyrwyddo ein cymwysterau cynaliadwy ac yn dangos ein hymrwymiad i leihau ein hôl troed carbon... Mae defnyddio dull ataliol wrth fynd i’r afael â phryderon amgylcheddol yn hollbwysig i Ganolfan Mileniwm Cymru, gan sicrhau ein hymrwymiad parhaus i greu rhagolwg glanach a gwyrddach ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru.”  

David Bonney, ein Rheolwr Gwarchod Adeiladau a Pheirianneg  

Dysgwch fwy am ein paneli solar.

Mae Canolfan Mileniwm Cymru wrth ei bodd i fod wedi ennill Gwobr Effaith IWFM 2023 am Weithredu Cadarnhaol ar y Newid yn yr Hinsawdd. Mae cynaliadwyedd ar frig ein hagenda, ac mae’r wobr yma yn profi ein hymrwymiad i ddyfodol glanach a gwyrddach. Mae’n dangos y gall tîm bach sydd â digon o uchelgais fynd i’r afael â phroblemau mawr, cyflawni eu nodau a rhoi newid ystyrlon ar waith. Rydyn ni’n ddiolchgar i’r beirniaid am gydnabod y gwaith caled a’r brwdfrydedd a oedd yn rhan o’r prosiect yma, ac mae’n anrhydedd cael rhannu ein llwyddiant â’n cydweithwyr, cwsmeriaid a rhanddeiliaid. Bydd Canolfan Mileniwm Cymru yn parhau i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd a chynyddu ein heffaith ar ddiwylliant am genedlaethau i ddod.

Llyfr Gwyrdd y Theatr ar gyfer Nye! ♻️

 

Gan weithio gyda'r National Theatre ar ein cyd-gynhyrchiad Nye, rydyn ni’n falch o fod wedi rhoi safonau Llyfr Gwyrdd y Theatr ar waith i leihau ein heffaith amgylcheddol. Gwnaethom ni ddefnyddio cyfarpar technegol o stoc bresennol lle y bo’n bosibl, gan leihau’r angen i greu, prynu neu logi.

Arweiniodd hyn at ganrannau cynaliadwyedd/ailddefnyddio o:

  • Golygfeydd: 66%
  • Propiau: 64%
  • Gwisgoedd: 76%


RHAI O'R PETHAU ERAILL RYDYN NI'N EU GWNEUD

  • Rydyn ni’n falch o gael cefnogi Rhwydwaith Gwres Ardal Caerdydd Werddach ac mae ganddon ni uchelgais i gysylltu â’r rhwydwaith yn 2024.
  • Rydyn ni’n caffael ein trydan a'n nwy am bris gwell na gwerth y farchnad ac yn monitro ein defnydd yn ofalus drwy gydol y flwyddyn.
  • Rhaid i unrhyw offer newydd rydyn ni’n ei brynu fod â sgôr ynni well na'r offer blaenorol, sy'n golygu ein bod yn gwella ein defnydd o ynni yn barhaus.
  • Rydyn ni’n lleihau gwastraff drwy ddefnyddio cynwysyddion bioddiraddiadwy a drwy ailgylchu gwastraff bwyd cegin.
  • Rydyn ni’n agos at fod yn 100% ddi-blastig yn ein bariau a chaffis.
  • Gweinir ein holl ddiodydd bar mewn cwpanau plastig ailddefnyddadwy, a ellir hefyd eu hailgylchu'n llawn.
  • Rydyn ni wedi dechrau gweini diodydd mewn caniau lle mae'n bosib, oherwydd defnyddir llai o ynni i'w hailgylchu na gwydr.
  • Rydyn ni’n mynd ati’n barhaus i osod goleuadau newydd ynni effeithlon, fel LED, yn lle goleuadau hŷn.
  • Rydyn ni’n gosod rheolyddion gweithredol i gynnau a diffodd goleuadau er mwyn arbed ynni.
  • Yn ddiweddar, fe gawson ni System Rheoli’r Adeilad newydd, sy’n caniatáu i ni gael rheolaeth ragweithiol ar ynni.
  • Rydyn ni’n cynnig e-docynnau (tocynnau digidol) ar gyfer pob sioe a digwyddiad.
  • Rydyn ni’n sicrhau bod yr arferion a’r prosesau sy’n cael eu defnyddio wrth greu ein gweithgarwch celfyddydol a chreadigol yn amgylcheddol gynaliadwy, gan gynnwys sicrhau bod yr ôl troed carbon lleiaf posib ganddynt. Byddwn yn cynnal archwiliad o'r ôl troed carbon sy’n cael ei greu gan ein Gweithgarwch celfyddydol a chreadigol drwy gydol 2021-22.
  • Gwnaethom ni ennill Gwobr y Frenhines am Gynaliadwyedd yn 2016, ac mae ein cynaliadwyedd yn parhau i ddilyn y meincnod hwn. Rydym ni hefyd wedi cael Tystysgrif Ynni i’w Harddangos yng nghategori B, sy’n cael ei hystyried yn ddyfarniad canmoladwy i adeiladau cyhoeddus.

Polisi Amgylcheddol

Rydyn ni’n credu bod cysylltiad agos rhwng diogelwch a lles ein gweithwyr a'r cyhoedd, a stiwardiaeth amgylcheddol. O'r herwydd, mae ein polisi amgylcheddol yn cynnwys cyfeiriadau at ddiogelwch a iechyd yn ogystal â'r amgylchedd.

Mae ein polisi yn seiliedig ar egwyddorion gwella parhaus, cydymffurfio â'r holl ddeddfau a rheoliadau perthnasol, ac atal llygredd.

Darllenwch ein Polisi Amgylcheddol i ddysgu mwy am ein hymrwymiad i ddiogelwch, iechyd a stiwardiaeth amgylcheddol.

Rydyn ni’n chwilio o hyd am ffyrdd o wella ac yn gobeithio y bydd ganddon ni fwy i'w rannu gyda chi yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd nesaf.

Cyflawniadau

Mae Canolfan Mileniwm Cymru wrth ei bodd i fod wedi ennill Gwobr Effaith IWFM 2023 am Weithredu Cadarnhaol ar y Newid yn yr Hinsawdd. Mae cynaliadwyedd ar frig ein hagenda, ac mae’r wobr yma yn profi ein hymrwymiad i ddyfodol glanach a gwyrddach. Mae’n dangos y gall tîm bach sydd â digon o uchelgais fynd i’r afael â phroblemau mawr, cyflawni eu nodau a rhoi newid ystyrlon ar waith. Rydyn ni’n ddiolchgar i’r beirniaid am gydnabod y gwaith caled a’r brwdfrydedd a oedd yn rhan o’r prosiect yma, ac mae’n anrhydedd cael rhannu ein llwyddiant â’n cydweithwyr, cwsmeriaid a rhanddeiliaid. Bydd Canolfan Mileniwm Cymru yn parhau i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd a chynyddu ein heffaith ar ddiwylliant am genedlaethau i ddod.