Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Taniwch eich creadigrwydd gyda’n cyrsiau, hyfforddiant, profiadau a gweithdai am ddim.  

Lle bynnag ydych chi ar eich taith greadigol, mae rhywbeth yma ar eich cyfer. Darganfyddwch Platfform; lle i ddysgu sgiliau newydd, cysylltu â’ch criw a bod yn greadigol heb wario ceiniog. Wedi’i greu gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc.

Cyrsiau creadigol – yn arbennig i chi 

Yn galw pobl ifanc creadigol. P’un a ydych yn angerddol dros radio, am roi cynnig ar greu ffilmiau, awydd actio neu am ddatblygu gyrfa ddigidol greadigol, mae rhywbeth yma ar eich cyfer chi!   

Pobl ifanc sy’n ysbrydoli ein cyrsiau creadigol, ac arbenigwyr y diwydiant ac arweinwyr y sector sy’n eu harwain, gan gynnwys Promo Cymru, BFI a’r Welsh Games Academy. Byddwch yn cael mynediad heb ei ail at sgiliau a chyngor o’r radd flaenaf. Yn ogystal, mae llawer o’r cyrsiau yn rhoi achrediad proffesiynol cydnabyddedig i'ch helpu chi ar eich taith greadigol.

Pryd ac ym mhle cynhelir y cyrsiau? 

Byddwch yn mynychu ein cyrsiau mewn ystafelloedd pwrpasol diogel naill ai yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, ein chwaer-orsaf Radio Platfform ym Mhorth neu ar-lein mewn ystafelloedd hyfforddi diogel Zoom. Am ragor o wybodaeth ynglŷn ag ymweld â Chanolfan Mileniwm Cymru ewch i’r adran ‘ymweld â ni’ ar ein gwefan. 

Cynhelir y rhaglen drwy gydol y flwyddyn ac mae themâu blaenorol yn cynnwys ysgrifennu creadigol, sgrin a ffilm, graffiti, argraffu sgrin, cynhyrchu nofelau graffig, cynhyrchu radio, gemau bwrdd chwarae rôl, theatr ieuenctid, brecddawnsio, hip-hop a chynllunio gwisgoedd. Cynhelir nifer gyfyngedig o’r cyrsiau gyda thiwtoriaid a gweithwyr proffesiynol sy’n arwain y cwrs yn Gymraeg. 

I bwy mae’r cyrsiau?

Mae ein cyrsiau’n agored i unrhyw un 11–25 mlwydd oed sy’n byw yng Nghymru. Maent ar lefel sylfaenol, wedi’u teilwra ar gyfer dechreuwyr neu i’r rheini sydd am ail-gydio yn eu sgiliau. Rydyn ni’n gweithredu rhaglen gynhwysol ac yn sicrhau bod ein cyrsiau yn agored i bawb. Os hoffech gymryd rhan ond yn teimlo bod angen cefnogaeth hygyrchedd ychwanegol arnoch, peidiwch ag oedi rhag cysylltu â ni drwy e-bostio education@wmc.org.uk.

Pwy sy’n arwain y cyrsiau?

Yn ogystal â gweithwyr proffesiynol a gweithwyr llawrydd sy’n arwain yn y diwydiannau creadigol, rydyn ni hefyd yn cydweithio â phartneriaid i gynnig cyrsiau arbennig sy’n rhoi’r hyfforddiant orau yng Nghymru. Mae’r partneriaid yn cynnwys:  

Uchelgais y Grand Abertawe 

Welsh Games Academy  

RedBrck  

Promo Cymru 

Learnaboutfilm 

Plant y Cymoedd 

Oriel Graffiti y Boiler House 

Printhaus 

Ein cyrsiau diweddaraf

Gofodau a stiwdios    

Ydych chi weithiau am dreulio amser mewn lle braf a chreu rhywbeth cŵl? Ydych chi am fod yn greadigol heb bwysau, mewn lle hamddenol? Rydyn ni’n gweithio ar gyfres o ofodau newydd sydd wedi’u dylunio gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc a fydd yn cynnwys mannau perfformio, labordai digidol, cyfleusterau cynhyrchu cerddoriaeth, lleoedd i dreulio amser gyda’ch criw a gorsaf radio newydd sbon – a’r cyfan ar gael i chi am ddim, bob amser! Yn y cyfamser, mae gorsaf radio dan arweiniad pobl ifanc a Stiwdio Scratch yma i chi – gofodau a ddyluniwyd i ddod â phobl ifanc ynghyd i rannu syniadau, treulio amser gyda’i gilydd a chreu cysylltiadau. Galwch heibio!

Darganfyddwch fwy am Radio Platfform a’r bobl ifanc sy’n rhedeg yr orsaf. 

Radio Platfform: Gwrandewch fan hyn

Mentora gyrfaol a digwyddiadau i bobl ifanc  

Ydych chi am ddatblygu gyrfa yn y sector greadigol ond heb syniad lle i gychwyn? Peidiwch â phoeni. Rydyn ni’n cynnal digwyddiadau rhwydweithio, sesiynau mentora a gweithdai i’ch helpu chi gysylltu â gweithwyr proffesiynol y sector a fydd yn eich ysbrydoli chi i dorri cwys eich hun. Cadwch lygad am ein digwyddiadau Life Hack blynyddol sy’n helpu pobl ifanc i gymryd eu camau cyntaf yn y sector creadigol, a’n digwyddiadau Dros Nos gwych sy’n cynnwys gweithdai creadigol, gweld un o’n cynyrchiadau gwreiddiol a disgo distaw. Perffaith! Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr Platfform i gael y newyddion diweddaraf.  

Prentisiaethau technegol  

Ydych chi awydd gweithio ar Hamilton? Ydych chi wrth eich bodd yn dod â hud y theatr i filoedd o bobl? Gallai prentisiaeth dechnegol fod yn berffaith i chi.  

Rydyn ni’n darparu hyfforddiant achrededig gyda’n partner Coleg Caerdydd a’r Fro; mae’n agored i unrhyw un dros 16 oed. Mae ein prentisiaeth ar y cyd yn hyfforddi ac yn meithrin y genhedlaeth nesaf o dechnegwyr theatr. Mae’r cwrs yn rhoi cannoedd o oriau o brofiad theatr ymarferol taledig a thystysgrif Lefel 3 yn Theatr Dechnegol. Mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen i ystod eang o swyddi yn y diwydiant theatr a digwyddiadau – gan gynnwys cynyrchiadau teithiol o fri a chanolfannau cenedlaethol eiconig.  

Cofrestrwch i gael ein cylchlythyr neu dilynwch sianeli cymdeithasol Platfform i wybod pryd fyddwn yn cychwyn derbyn ceisiadau.  

Gwyliwch ffilm gydag un o’n prentisiaid blaenorol, Bethany Davies i glywed ei stori.