Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Dyma’r atebion i rai o'n cwestiynau cyffredin.

Methu dod o hyd i ateb i'ch cwestiwn? Cliciwch ar y botwm oren 'ALLWN NI HELPU?' ar waelod eich sgrin er mwyn gofyn i'n sgwrsfot. 

Archebu tocynnau

Sut ydw i'n defnyddio e-docynnau?

Mae ein tocynnau i gyd yn ddigidol bellach a byddant yn cael eu hanfon atoch drwy e-bost ar ôl i chi archebu.  

Dangoswch eich tocynnau ar eich dyfais symudol i’n tywyswyr cyfeillgar ar eich ffordd i mewn i’r awditoriwm. 

Nid wyf wedi cael fy e-docynnau? Pryd fyddan nhw'n cyrraedd?

Dylai eich tocynnau gyrraedd o fewn 30 munud i chi archebu, yn eich e-bost cadarnhau. Os na, gallwch chi eu hail-lwytho drwy Fy Nghyfrif.

Sut ydw i'n defnyddio taleb rhodd/credyd?

Cwblhewch eich archeb yn y ffordd arferol drwy ddewis sioe, dyddiad, amser a’ch seddi, yna ewch i’r sgrin dalu. Yn y gornel dde ar y brig fe welwch ‘Oes gennych Daleb Rhodd? Cliciwch yma i’w defnyddio. Os byddwch chi’n clicio ar y testun yma, byddwch chi’n gallu defnyddio eich taleb rhodd drwy fewnbynnu rhif y daleb. 

Sut ydw i'n archebu tocynnau gyda cherdyn Hynt?

Gallwch chi archebu eich tocynnau dros y ffôn (029 2063 6464), gan roi eich rhif cyfeiriad Hynt unigryw wrth archebu.  

Os ydych chi wedi archebu tocynnau gyda ni yn flaenorol ac mae rhif cod bar Hynt dilys yn gysylltiedig â’ch cyfrif, gallwch chi hefyd archebu ar-lein. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw mewngofnodi i’ch cyfrif gyda’r cyfeiriad e-bost cofrestredig, cyn dewis y cynhyrchiad yr hoffech ei weld o‘r dudalen Digwyddiadur. Os nag oes gennych chi gyfrif Canolfan Mileniwm Cymru ar-lein, gallwch chi greu un yma: Creu cyfrif. Nodwch y gall gymryd hyd at 24 awr i Hynt ymddangos ar eich cyfrif. 

Bydd y nifer o docynnau Hynt sydd ar gael i chi ar-lein yn gyfyngedig yn seiliedig ar y nifer a gytunwyd gyda Hynt yn ystod y broses o ymaelodi â’r cynllun. Sicrhewch eich bod chi wedi dewis y nifer cywir o docynnau ar gyfer pob aelod o’ch grŵp. 

Ni allaf ddod i'r perfformiad rwyf wedi archebu tocynnau ar ei gyfer. Beth alla i ei wneud?

Gallwch chi gyfnewid eich tocynnau i berfformiad gwahanol o’r un cynhyrchiad (neu’r un tymor Opera Cenedlaethol Cymru) am ddim drwy mewngofnodi i’ch cyfrif. Darllenwch ein blog i weld sut i gyfnewid tocynnau. 

Pan fyddwch chi’n archebu tocynnau, mae opsiwn ar gael bellach i ychwanegu diogelwch ad-daliad drwy ddarparwr trydydd parti, Booking Protect. I ddysgu mwy am Booking Protect a phryd y byddan nhw’n rhoi ad-daliad llawn, darllenwch eu telerau ac amodau. Os na fyddwch chi wedi prynu Booking Protect, ni fyddwn yn cynnig ad-daliad ac eithrio pan fydd perfformiad yn cael ei ganslo.  

Mae eich gwefan yn dweud bydd cynhyrchiad newydd 'ar werth yn fuan'. Pryd fydda i'n gallu cael tocynnau?

Bydd ein gwefan yn cael ei diweddaru cyn gynted ag y byddwn wedi cadarnhau dyddiadau. Rydyn ni'n argymell eich bod yn tanysgrifio i'n cylchlythyr i gael diweddariadau, neu’n ymaelodi er mwyn cael blaenoriaeth wrth archebu pan fydd perfformiadau'n mynd ar werth. 

Yn ystod eich ymweliad

Oes gennych ystafell gotiau?

Oes, mae ein hystafell gotiau yn Siop ac mae ar agor awr cyn pob perfformiad. I ddod o hyd iddi, cerddwch drwy'r drysau blaen a throwch i'r chwith hyd ddiwedd y cyntedd. 

Rydyn ni'n cynnal chwiliadau ar hap o fagiau pobl pan fydd y theatr ar agor, ac os bydd unrhyw fag yn rhy fawr, byddwn yn gofyn i chi ei gadw yn yr ystafell gotiau. 

Oes canllaw gwisg i rywun sy'n dod i weld sioe?

Yn gyffredinol nac oes, does dim rheolau gennym ni o ran beth i'w wisgo. Rydyn ni'n croesawu pawb drwy ein drysau ac rydyn ni am i'n cynulleidfaoedd deimlo'n gyfforddus. 

Serch hynny, os bydd canllaw gwisg ar gyfer perfformiad penodol, byddwn ni’n rhoi gwybod i chi ymlaen llaw.  

Pryd ddylwn i gyrraedd ar gyfer perfformiad?

Dylech chi geisio cyrraedd o leiaf 30 munud cyn dechrau'r perfformiad er mwyn caniatáu digon o amser i brynu rhaglen, archebu diodydd a rhagarchebu mwy ar gyfer yr egwyl. Mae ein bariau theatr yn agor awr cyn dechrau pob perfformiad ac mae Ffwrnais ar agor drwy’r dydd tan hwyr.  

Fel arfer bydd drysau'r theatr yn agor ryw 20–30 munud cyn i'r sioe ddechrau, a bydd cyhoeddiad i roi gwybod i chi y gallwch chi fynd i mewn. 

Beth ddylwn i ei wneud os bydda i'n hwyr?

Rydyn ni'n deall weithiau bod cyrraedd yn hwyr yn anochel. Pan fyddwch chi’n cyrraedd, siaradwch ag aelod o staff a fydd yn gallu'ch cynghori chi pryd i fynd mewn i'r theatr. Mae gan y mwyafrif o sioeau bwyntiau penodol i hwyrddyfodiaid lle byddwn ni’n ceisio cael pobl sy'n hwyr i'w seddi pan fydd y gynulleidfa yn cymeradwyo.  

Serch hynny, nid yw rhai sioeau'n caniatáu hwyrddyfodiaid. Os felly, byddwn ni’n eich cyfeirio at un o'r bariau lle gallwch chi wylio ffrwd byw o'r perfformiad. 

Os gallwn ni fynd â chi i mewn i'r theatr yn ystod pwynt i hwyrddyfodiaid, cofiwch bydd y theatr yn dywyll iawn, ac fe fydd tywysydd yn eich dangos chi i'ch sedd gyda fflachlamp. 

Oes modd i mi dynnu lluniau a ffilmio?

Nac oes; oni bai ein bod yn cyhoeddi fel arall, mae ein polisi'n datgan na chaniateir ffotograffiaeth na ffilmio yn y theatr unwaith y bydd sioe wedi dechrau fel arwydd o barch i'r perfformwyr. Wedi dweud hynny, rydyn ni'n annog pob cwsmer i dynnu hunlun cyn y sioe; tagiwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol.  

Os hoffech chi dynnu lluniau proffesiynol neu ffilmio am unrhyw reswm, rhaid cael caniatâd ymlaen llaw gan swyddfa’r wasg.  

Ble alla i brynu rhaglen neu nwyddau sioeau?

Bydd rhaglenni ac unrhyw nwyddau sioeau ar gael ar y llawr gwaelod wrth i chi ddod drwy'r drysau, ac mae gwerthwyr rhaglenni hefyd wrth ymyl pob bar cyn sioe. 

Ble mae'r toiledau?

Mae toiledau ar y llawr gwaelod, ac o Lefel 2 i fyny mae toiledau i ddynion a menywod ar naill ochr yr adeilad.  

Mae ein toiledau yn gallu bod yn brysur cyn sioe ac yn ystod yr egwyl, ond weithiau mae toiledau ar lefelau eraill yn dawelach, felly mae'n werth mynd i weld. 

Mae tai bach hygyrch ar bob lefel ac ar naill ochr yr adeilad hefyd. 

Pa gyfleusterau a gwasanaethau ydych chi'n eu darparu ar gyfer teuluoedd?

Mae gennym ni gyfleusterau newid clytiau yn nhoiledau’r menywod ac yn y toiledau hygyrch ar y llawr gwaelod. 

Hefyd, mae gennym nifer cyfyngedig o glustogau i'w rhoi ar y seddi, yn rhad ac am ddim. Mae'r rhain ar gael o'r ystafell gotiau, ond weithiau does dim digon i bawb ar gyfer rhai sioeau teuluol, felly efallai yr hoffech chi ddod â'ch clustogau eich hunan. 

Gallwch adael bygis plant yn yr ystafell gotiau, ac yn aml byddwn yn neilltuo ardal i barcio bygis yn ystod sioeau i blant.  

Sut ddylwn i ymddwyn yn ystod y perfformiad?

Rydyn ni am i bawb allu mwynhau'r perfformiad, felly dylech chi barchu'r bobl o'ch cwmpas chi yn y theatr. Mae'r modd y disgwylir i'r gynulleidfa ymddwyn hefyd yn dibynnu ar y sioe ei hunan. 

Mae siarad, canu, mwmian a chlapio yn gallu amharu ar fwynhad pobl eraill os byddwch chi’n gwneud hyn ar adegau amhriodol. Dim ond rhwng pob act neu set y dylai pobl glapio fel arfer.  

Mae rhai sioeau cerdd yn cynnwys darnau encore, a dyma'r adeg pan fydd pobl yn gallu clapio a chyd-ganu gan fod y perfformiad go iawn wedi gorffen. 

Yn ystod y sioe, dylid osgoi mynd a dod o'ch seddi oni bai ei bod hi'n argyfwng. Gall ein tywyswyr eich helpu gydag unrhyw gwestiynau neu broblemau a allai fod gennych. 

Alla i fwyta yn y theatr?

Er ein bod yn caniatáu rhai eitemau bwyd a diodydd yn y theatr, gall bwyta yn ystod y sioe amharu ar eraill, felly gofynnwn i chi wneud hyn cyn neu ar ôl y sioe.