Ffwrnais
Ffwrnais yw ein bar-caffi prydferth sy’n gweini lluniaeth o frecwast i ddiod noswylio, ac mae’n lle perffaith i weithio, cyfarfod, ymlacio – ac wrth gwrs, dreulio noson gofiadwy gyda ni. Gallwch chi ein helpu ni gyrraedd ein targed sero net drwy ddod â'ch cwpanau eich hun.
Caffis a bariau
Mwynhewch ddiod cyn sioe yn un o fariau’r theatr neu sgwrsiwch â ffrindiau dros goffi. Dychwelwch eich cwpanau ar ôl gorffen fel y gallwn ni eu hailddefnyddio.
Armadilo
Wedi'i gynllunio i synnu a difyrru, nid siop anrhegion arferol mo hon. Gyda lliw, elfennau tafod yn y boch ac addurniadau ffasiynol, mae Armadilo yn dod â rhywbeth ffres i Ganolfan Mileniwm Cymru.
Anrhegion
Helpwch ni gadw’r fflam greadigol ynghynn yng Nghymru drwy archebu anrheg hudolus i’ch anwyliaid sy’n caru theatr.
Drwy brynu taleb rhodd, aelodaeth rhodd neu drwy enwi sedd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, nid yn unig fyddwch chi’n codi gwên, ond byddwch chi hefyd yn ein helpu ni i danio’r dychymyg a bod yn gartref creadigol i bawb.