Ymunwch â’r tîm a chyfrannwch at ganolfan gelfyddydau cenedlaethol Cymru. Ein pobl sy’n dod â’r adeilad yn fyw.
Rydyn ni'n creu pob math o waith, ac am i bob math o bobl weithio gyda ni. Byddem ni wrth ein boddau petaech yn ystyried yr ystod eang o gyfleoedd sydd ar gael gyda ni.
Rydyn ni am i Ganolfan Mileniwm Cymru fod yn gartref i bawb - gan groesawu a chynnwys pawb, ni waeth pa wahaniaethau sydd, gan ddathlu unigolion. Nod ein proses ymgeisio dienw yw sicrhau bod ein prosesau recriwtio yn gynhwysol ac yn deg, gan roi cyfleoedd i bobl o ystod eang o gefndiroedd.
Croesawn geisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swyddi gwag
Dewch o hyd i’ch swydd ddelfrydol yng nghanolfan celfyddydau genedlaethol Cymru. Cymerwch olwg ar ein swyddi gwag diweddaraf.
Swyddi llawrydd diweddaraf
Dewch o hyd i'ch swydd ddelfrydol yng nghanolfan celfyddydau fwyaf Cymru. Cymerwch olwg ar ein swyddi llawrydd diweddaraf.
Prentisiaethau Technegol
Ymgeisiwch ar gyfer ein cynllun prentisiaethau technegol er mwyn derbyn hyfforddiant ymarferol a chymhwyster a adnabyddir gan y diwydiant.
Ymunwch â ni fel Gwirfoddolwr
Dewch i nabod pobl hyfryd, dysgwch sgiliau newydd a gwyliwch berfformiadau.
Ein Buddion
Rydyn ni’n cynnig ystod eang o fuddion gwych i staff - o fentrau lles i bensiynau personol. Cymerwch olwg ar bopeth rydyn ni’n ei gynnig.
Cydraddoldeb ac amrywiaeth
Darganfyddwch fwy am ein proses recriwtio, gweithlu a sut rydym yn cynnal ein ffocws ar amrywiaeth a chynhwysiad.
Byw a gweithio yng Nghaerdydd
Ydych chi'n meddwl symud i Gaerdydd? Darganfyddwch pam bod ein prifddinas yn le gwych i fyw a gweithio.