Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Defnyddiwch eich llais yn Radio Platfform, ein gorsaf radio sy’n cael ei harwain yn llwyr gan bobl ifanc 11–25 oed. Os ydych chi’n frwdfrydig dros radio byw a phodlediadau neu am roi cynnig ar rywbeth newydd, dyma’r lle i chi.

Dysgwch sgiliau sylfaenol cynhyrchu radio a phodlediadau gyda’n cyrsiau rhad ac am ddim yn ein stiwdios yng Nghaerdydd a Phorth. Byddwn ni’n addysgu popeth y mae angen i chi ei wybod i ddechrau arni, o dechnegau cyfweld i sut i beidio â chynhyrfu cyn gwneud sioe byw.

Unwaith y byddwch chi wedi cwblhau un o’n cyrsiau, gallwch chi ymuno â’n teulu o gyflwynwyr a chreu sioeau am y pethau sydd o ddiddordeb i chi. Beth bynnag fo hynny – cerddoriaeth grime, gemau, yr amgylchedd neu rywbeth arall – dyma eich gorsaf chi.

Gwrandewch ar Radio Platfform ble bynnag yr ydych chi, ar fwrdd gwaith, ffôn symudol, llechen neu seinydd clyfar. Gwrandewch yn ôl ar ein sioeau diweddaraf ar Mixcloud.

Gwrandewch ar radio byw

Ymunwch â chwrs

Darganfyddwch pryd mae ein cwrs Hyfforddiant Radio nesaf yng Nghaerdydd neu Borth.

Dewch i gymryd rhan

Dewch i gwrdd â’r tîm

Ar ôl graddio o’r cwrs hyfforddi mae rhai hyfforddeion yn dewis aros gyda ni i weithio i’r orsaf. Maent yn cymryd rôl yn y tîm a chyfrifoldeb ychwanegol am 6-12 mis, tra bod eraill yn dewis bwrw ymlaen gyda’u sioeau eu hunain. Dewch i adnabod y bobl sy’n rhedeg eich gorsaf radio.

Dysgwch fwy

DIGWYDDIADAU BYW A DOSBARTHIADAU MEISTR

Rydyn ni’n dwli ar gynhyrchu sioeau yn y stiwdio, ond rydyn ni hefyd yn mynd ar grwydr i gwrdd a chyfweld â cherddorion ac artistiaid mewn gigiau a gwyliau fel Gŵyl Podlediadau Llundain, Gŵyl Dyn Gwyrdd, Gŵyl y Gelli a Focus Wales. Gwrandewch: Mixcloud.

Rydyn ni’n trefnu dosbarthiadau meistr gyda gurus radio, cyfredol ac o’r gorffennol, gan ddysgu beth sydd ei angen i fod yn llwyddiannus ym myd radio. Mae ein gwesteion wedi cynnwys cyn-olygydd Radio 1 Newsbeat Rod McKenzie a Polly James o Capital Radio.

EIN STIWDIOS

Mae gennym stiwdios yng Nghaerdydd (Canolfan Mileniwm Cymru) a Phorth (Y Ffatri) lle rydyn ni’n cynnal gweithdai, recordio ein sioeau neu dreulio amser gyda’n gilydd a chwarae gêm o pŵl.

Y newyddion diweddaraf

Cysylltwch â ni yn radioplatfform@wmc.org.uk os hoffech chi ddysgu mwy am Radio Platfform neu gael gwybod pan mae cyrsiau newydd ar gael.

Gallwch ddod o hyd i’n hamserlenni wythnosol, clipiau o’n sioeau a holl newyddion diweddaraf Radio Platfform ar ein cyfryngau cymdeithasol.