Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Trwy gofio amdanom yn eich ewyllys, gallwch lunio dyfodol disglair i Gymru am genedlaethau i ddod.

Mae rhodd yn eich ewyllys yn ffordd ystyrlon o ddathlu eich cariad at Ganolfan Mileniwm Cymru a gwneud cyfraniad parhaol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

“Rydym wedi bod wrth ein bodd â’n hymweliadau â Chanolfan Mileniwm Cymru fel cwsmeriaid a gwirfoddolwyr, ac wedi cael ein hysbrydoli gan y ffordd y mae’r Ganolfan yn ymgysylltu â phobl ifanc yng Nghymru. Rydym yn falch o wybod y bydd ein cymynrodd yn fodd o ysbrydoli creadigrwydd, sgiliau technegol a hunan-barch yn ogystal â pharhau i ddiddanu.”

Y Jonesiaid, Caerdydd

Ein cenhadaeth yw ysbrydoli cynulleidfaoedd, meithrin creadigrwydd a galluogi pob person ifanc yng Nghymru i ehangu eu gorwelion drwy’r celfyddydau. Gallai rhodd yn eich ewyllys ein helpu ni i gyflawni hyn, gan ein cefnogi i:

  • Drawsnewid mwy o fywydau ifanc drwy ein rhaglenni dysgu creadigol rhad ac am ddim a’r cynlluniau prentisiaeth, gan alluogi pob person ifanc yng Nghymru i ehangu eu gorwelion drwy’r celfyddydau, ar-lein ac mewn person
  • Ysbrydoli cynulleidfaoedd a thanio dychymyg trwy gynyrchiadau theatr ein hunain, gwyliau a phrofiadau digidol, yn ogystal â chynyrchiadau teithiol o safon fyd-eang
  • Meithrin creadigrwydd trwy fentora a chefnogi mwy o artistiaid cenedlaethol newydd
  • Datblygu ein gofod i ddiwallu anghenion ein cynulleidfaoedd a’n cymunedau yn well, creu lle ar gyfer profiadau digidol, mannau parhaol i bobl ifanc greu a chyfleusterau cynhyrchu ychwanegol
  • Cysylltu â mwy o gymunedau i sicrhau ein bod yn gartref i bawb, gan ehangu mynediad i’r celfyddydau trwy docynnau cymunedol, perfformiadau mynediad hygyrch a chynyrchiadau newydd ar gyfer cynulleidfaoedd newydd
  • Ddiogelu eich canolfan gelfyddydau genedlaethol a dyfodol y celfyddydau yng Nghymru, fel y gallwn barhau i ddod â llawenydd a chreadigrwydd i fywydau pobl

Rydym yn dibynnu ar haelioni pobl fel chi i barhau â'r gwaith hwn a chynllunio ar gyfer y dyfodol yn hyderus. Gall pob rhodd ym mhob ewyllys – waeth pa mor fawr neu fach – wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Deallwn mai anwyliaid fydd yn dod yn gyntaf, ond ar ôl darparu ar gyfer teulu a ffrindiau gobeithiwn y byddwch yn ystyried Canolfan Mileniwm Cymru.

Edrychwch ar ein llyfryn cymynrodd am ragor o wybodaeth, gan gynnwys awgrymiad geiriad. 

Cylch Cymynroddion

Os hoffech chi ein cofio ni yn eich ewyllys, hoffem ddiolch i chi drwy eich gwahodd i ymuno â’n Cylch Cymynroddion. Byddwch chi’n rhan o grŵp o unigolion tebyg sy’n frwdfrydig dros bwysigrwydd y Celfyddydau ym mywydau pobl, heddiw ac am genedlaethau i ddod. Gallwch chi fwynhau digwyddiadau a phrofiadau arbennig bob blwyddyn, cydnabyddiaeth o’ch cefnogaeth a diweddariadau bob chwarter am ein gwaith tu hwnt i’r llwyfan.

Diolch yn fawr

Cysylltwch â Cecily Morgan, Rheolwr Dyngarwch, i drefnu cyfarfod cyfrinachol ynglŷn â gadael anrheg yn eich ewyllys neu wneud rhodd er cof. E-bost: cefnogwyr@wmc.org.uk

Enw’r Elusen: Canolfan Mileniwm Cymru
Cyfeiriad: Canolfan Mileniwm Cymru, Plas Bute, Caerdydd, CF10 5AL
Rhif Elusen Gofrestredig: 1060458

Gwireddodd Kiara ei breuddwyd

O weithio yn y celfyddydau