Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Profiadau Ymdrochol

Mae bydoedd newydd yn aros yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.

Ymgollwch mewn profiadau rhyfeddol gan rai o artistiaid a chrewyr ymdrochol mwyaf blaenllaw'r byd.

 

Yr haf a’r hydref yma, gwahoddir cynulleidfaoedd i ymgolli mewn cyfres o weithiau celf myfyriol, 360 gradd, realiti rhithwir ac aml-sgrin rhyfeddol gan ddwy stiwdio enwog o wledydd Prydain. Bydd y gosodweithiau graddfa fawr hyn yn archwilio ac yn herio sut rydyn ni’n gweld y byd, gan ein hysgogi i wynebu grym aruthrol byd natur. 

Mae EVOLVER, gan Marshmallow Laser Feast, yn gosod y gynulleidfa wrth wraidd y profiad, gan fynd â chi ar daith drwy ecosystem y corff dynol, dan arweiniad yr actor clodwiw Cate Blanchett. Mae Framerate: Pulse of Earth gan ScanLab, sy’n waith sinema estynedig, yn cynnig cipolwg ar ein byd sy’n newid yn gyflym gan ddefnyddio sawl sgrin a thrac sain gwreiddiol a hypnotig i’n helpu ni i brosesu effeithiau tirwedd sy’n newid.  

DIGWYDDIADUR

Evolver_On-Sale-Assets_Thumbnail_ARTWORK_AG100626

Evolver

wedi’i gyfarwyddo gan Marshmallow Laser Feast

VR CINEMA IMAGE

Sinema Realiti Rhithwir - Rhaglen yn ystod y Dydd

The Art of Change | Bodies of Water | Ôl Haunts

0ef180e6-ca87-48fc-9f5f-994db5ae0d0f

Sinema Realiti Rhithwir – Rhaglen gyda'r Nos

Just For You Trilogy

Framerate_On-Sale-Assets_Thumbnail_ARTWORK_AG100626

FRAMERATE: Pulse Of The Earth

gan ScanLAB Projects