Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Mynediad i bawb

Ein nod yw tanio’r dychymyg ac ehangu gorwelion, gan ymgynnull creadigrwydd a diwylliant yng Nghymru. Er mwyn sicrhau bod unrhyw un yn gallu cael mynediad at y celfyddydau, waeth be fo’u hamgylchiadau na’u chwaeth, rydyn ni’n cydweithio â chymunedau, pobl ifanc a chynulleidfaoedd i greu rhaglenni a ffyrdd o weithio sy’n groesawgar i bawb. 

Ein rhaglen hygyrchedd 

Cydraddoldeb, amrywiaeth a gwrth-hiliaeth

Wrth i ni weithio tuag at fod yn sefydliad mwy cyfiawn, rydyn ni’n hyrwyddo ac yn dathlu pob math o brofiadau bywyd go iawn. Rydyn ni’n creu ffyrdd i gynnwys a meithrin y grwpiau hynny sydd wedi dioddef ac yn parhau i ddioddef camdriniaeth sefydliadol a rhagfarn.  

Darganfyddwch yr hyn rydyn ni'n ei wneud 

Yr amgylchedd a chynaliadwyedd

Rydyn ni’n cydnabod ein bod ni mewn argyfwng hinsawdd a bod rôl allweddol gennym a chyfrifoldeb arnom i sicrhau ein bod yn lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd. I’r perwyl hwn rydyn ni’n blaenoriaethu ein map ffordd sero net fel y gallwn barhau i ysbrydoli, hyfforddi a chroesawu cenedlaethau’r dyfodol.  

Ein map ffordd argyfwng hinsawdd  

Y Gymraeg

Rydyn ni’n sefydliad cenedlaethol dwyieithog balch sydd wedi ymrwymo i gynnig profiad dwyieithog i staff, gwirfoddolwyr, cyfranogwyr a chynulleidfaoedd. 

Darllenwch am ein hymrwymiad i'r Gymraeg

Adroddiadau a chyfrifon blynyddol

Darganfyddwch sut rydyn ni’n perfformio yn erbyn ein gweledigaeth a’n gwerthoedd, a sut rydyn ni wedi bod yn tanio’r dychymyg dros y blynyddoedd 

Darllenwch ein hadroddiad diweddaraf