Rydyn ni’n credu’n gryf bod gan greadigrwydd y pŵer i drawsnewid bywydau a grymuso cymunedau ac y dylai pawb gael cyfle i gymryd rhan.
Platfform
Platfform yw ein gofod arloesol ar gyfer pobl ifanc gan bobl ifanc. Gyda stiwdios, mannau dysgu a hafan gymdeithasol o’r radd flaenaf, pwrpas Platfform yw meithrin sgiliau gwaith a sgiliau bywyd.
Mae dros 5,000 o bobl ifanc yn ymwneud â’n rhaglenni bob blwyddyn, gan ddatblygu’r sgiliau creadigol a’r meddylfryd sydd eu hangen i greu dyfodol gwydn, teg a chynaliadwy i bawb.
ARTISTIAID AWEN
Mae angen cyfleoedd i chwarae, arbrofi, methu a datblygu ar artistiaid er mwyn cynhyrchu eu gwaith gorau ar gyfer ein llwyfannau a’r ecoleg greadigol ehangach.
Rydyn ni’n sicrhau bod hyn yn bosib gyda’n rhaglen i artistiaid Cymru. Rydyn ni’n rhoi dros 150 diwrnod o ystafelloedd a chefnogaeth i dros 60 o weithwyr creadigol bob blwyddyn, gan sicrhau ein bod yn dathlu ac yn meithrin gwaith creadigol.
Cyfleoedd presennol:
Gweithdy Ysgrifennu Soho Theatre – am ddim, Mer 17 Ebrill
Rydyn ni’n rhannu ein gwybodaeth, sgiliau a phrofiad ag artistiaid a gweithwyr creadigol drwy Swyddfa Agored, menter sy’n cefnogi ceisiadau am gyllid, yn hyrwyddo cyfleoedd ac yn darparu adborth a chyngor drwy sesiynau i hyd at 10 artist bob mis.
Rydyn ni’n creu cyfleoedd i gynorthwyo ar draws nifer o ddisgyblaethau creadigol ar bob un o’n cynyrchiadau, er mwyn darparu profiadau dysgu amhrisiadwy i weithwyr creadigol ar ddechrau eu gyrfa. Rydyn ni’n annog cyfleoedd rhwydweithio a chefnogaeth cymar wrth gymar drwy rannu mannau gwaith a digwyddiadau cymdeithasol.
Gwyliwch fideo gyda Luke Hereford sy’n trafod sut beth yw datblygu gwaith gyda ni.
Comisiynau Glanfa
Rydyn ni’n comisiynu arddangosfeydd a gosodweithiau ar raddfa fawr yn ein mannau cyhoeddus. Mae hyn yn rhoi cyfleoedd taledig a llwyfannau i ddangos gwaith ac yn sicrhau bod ystod o leisiau yn cael gwrandawiad.
Mae ein comisiynau yn agored i bawb ac yn defnyddio system gyllidebu cyfranogol er mwyn sicrhau bod y broses o ddewis y gwaith yn ddemocrataidd. Mae hyn yn grymuso artistiaid, pobl ifanc a chymunedau i lenwi ein mannau cyhoeddus â’u lleisiau a’u storïau. Mae dros 5,000 o bobl yn cymryd rhan yn ein gweithdai a’n llwybrau, gan gyfrannu’n uniongyrchol at naws ein mannau cyhoeddus.
Gyda chyd-ddylunio a chyd-greu wrth wraidd ein gwaith, mae galwadau am gomisiynau ein mannau cyhoeddus yn agored, a’r artistiaid sy’n ymgeisio sy’n penderfynu pwy fydd yn llwyddiannus. Fel adeilad cyhoeddus, rydyn ni’n credu’n gryf ym mhwysigrwydd ymwneud â phobl ar draws ein rhaglenni. Mae’r ffordd yma o weithio wedi cael effaith gadarnhaol ar les a chyfranogi cymdeithasol a diwylliannol, ac yn un ffordd yr ydym yn gweithio i rannu pŵer a democrateiddio ein hadeilad.