Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Brogs y Bogs

Glanfa

21 Awst 2023

Brogs y Bogs

21 Awst 2023

Glanfa

Ymunwch â Brogs y Bogs, archarwyr y llyffantod, a helpwch nhw i ffrwydro drwy'r ffosydd a difetha'r Cwac Tŷ Bach yn y sioe newydd hon gan Familia del Noche. Dewch i neidio, dawnsio a chwerthin llond eich bol gyda'r amffibiaid anhygoel, fydd yn siwr o ddiddanu'r teulu cyfan.

Yn 2023,  roedd uned o blymwyr, criw o frogaod handi, o dan glo am drosedd halogi nad oeddent yn gyfrifol amdano.  Dihangodd yr arwyr gwyrdd a ffoi i dduwch carthffosydd y ddinas. Heddiw, â'r llywodraeth llysnafeddog dal yn eu hel, mae nhw'n goroesi yng nghrombil y ddaear. Carcharorion dewr ar droed yn barod i wasanaethu trigolion y ddinas. Ych a fi's yn eich pibau? Gwynt ffiaidd yn ffrydrio'r ffenestri? Dim problem! Galwch ar BROGS Y BOGS.

Cefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Amser dechrau: 2.30pm (perfformiad Cymraeg) a 4.30pm (perfformiad dwyieithog)

Hyd y perfformiad: 45 munud

Oed: Pob oed

Am ddim, does dim angen archebu.

Cyflwynir yn

Glanfa