Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Opera Cenedlaethol Cymru: La traviata

21, 23, 28 + 30 Medi 2023

Theatr Donald Gordon

Beth fyddech chi'n ei aberthu yn enw cariad? 

Violetta yw putain llys mwyaf gosgeiddig Paris, y ddelaf ym mhob dawns, gyda dewis o edmygwyr cyfoethog yn disgyn wrth ei thraed. Mae hi wrth ei bodd â chrandrwydd ffordd o fyw y boneddigion, ond pan mae’n disgyn dros ei phen a'i chlustiau mewn cariad â'r bardd aristocrataidd Alfredo, sydd heb ddimai goch i'w enw, mae'n fodlon aberthu popeth er ei fwyn. A fydd hi'n cael ei derbyn fel merch sydd wedi disgyn mewn cariad, neu a fydd hi'n parhau i gael ei hystyried yn ferch bechadurus nad oes dyfodol i'w chariad?

Mae opera fythol Verdi yn seiliedig ar nofel Alexandre Dumas fils, La Dame aux Camélias, ac mae'n cynnwys rhai o'r ariâu a melodïau mwyaf atgofus, gan gynnwys yr hynod adnabyddus Brindisi (y gân yfed), a'r diweddglo hyfryd o ingol, Addio del passato. Bydd yn amlwg o gynhyrchiad gosgeiddig ac egniol pum-seren WNO pam mae'r stori dorcalonnus hon am gariad wedi'i rwystro, sgandal a hunan-aberth yn gwneud La traviata yn ffefryn gyda chynulleidfaoedd ar draws y byd. 

wno.org.uk/traviata
#WNOtraviata

Cenir yn Eidaleg, gydag uwchdeitlau ar sgrin yn Gymraeg a Saesneg

Amser cychwyn:
Iau 7.30pm
Sad 3pm + 7.30pm

Hyd y perfformiad: Tua 2 awr a 45 munud (yn cynnwys dwy egwyl)

Cyd-gynhyrchiad â Scottish Opera, Gran Teatre del Liceu, Barcelona a Teatro Real, Madrid

CYNNIG AML-DOCYN OPERA CENEDLAETHOL CYMRU

Archebwch docynnau ar gyfer 2 opera ac arbedwch 10%
Archebwch docynnau ar gyfer 3 opera ac arbedwch 15%
Archebwch docynnau ar gyfer 4 opera ac arbedwch 20%
Archebwch docynnau ar gyfer 5 opera ac arbedwch 25%

Ar gyfer pecynnau aml-brynu, mae'n rhaid prynu'r un nifer o docynnau ar gyfer pob opera. Yn gymwys i'r 3 pris drutaf. Caiff y cynnig ei brosesu yn eich basged siopa.

CYNIGION GRŴP

Grwpiau 10+, gostyngiad o £4. Yn berthnasol i seddi penodol.
Trefnu ymweliad grŵp.

YSGOLION

£12.50 — yn berthnasol i seddi penodol. Tocyn athro am ddim gyda phob 10 disgybl. Ffôn 029 2063 6464.

CYNIGION I'R RHEINY DAN 16 OED

Tocyn £5 wrth archebu gydag oedolyn sy'n talu am docyn pris llawn. Nodwch os gwelwch yn dda: rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn.

Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.

Archebwch cyn gynted â phosib er mwyn sicrhau’r dewis orau o seddi. Efallai bydd prisiau tocynnau’n cael eu haddasu a bydd yn adlewyrchu’r pris presennol ar gyfer pob perfformiad yn seiliedig ar alw. Gall prisiau newid ar unrhyw adeg heb rybudd.

Sain Ddisgrifiad

Teithiau Cyffwrdd

Patti Smith

Cyflwynir yn

Theatr Donald Gordon