Taith feiddgar o gariad, colled, diabetes ac ymosodiadau gan wylanod.
Sioe lwyddiannus Off Broadway Sam Morrison yw “the best new show in New York right now” (Daily Beast). Yn UDA cafodd y sioe ei hymestyn deirgwaith a chafodd enwebiad Outer Critics Circle.
Mae Sugar Daddy yn dilyn Sam wrth iddo gwrdd â’i ddiweddar bartner mewn gŵyl eirth hoyw a dod o hyd i obaith a digrifwch mewn galar ar ôl iddo farw.
Sam Morrison, a gafodd ei enwi’n Wyneb Newydd yng Ngŵyl Just For Laughs 2023 ac sydd wedi ymddangos ar y teledu am y tro cyntaf yn ddiweddar ar Late Night with Seth Myers, yw un o sêr datblygol mwyaf y byd comedi.
Cyflwynir gan Mick Perrin Worldwide
"Sam Morrison’s superb show about his partner’s death proves grief is not beyond comedy’s reach.”
“Arch sass and polished panache”
“How Morrison can make us laugh about crying, cry laugh and then just straight-up waterworks is an entire mystery”
Amser dechrau: 8.30pm, 7.30pm drysau
Canllaw oed: 18+
Rhybuddion: Iaith gref
IECHYD DA!
Drysau ar agor 1 awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.