Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Hanes Miwsig Caerdydd

Wasteland of my Fathers

Bocs

25 Medi – 19 Tachwedd 2023

Hanes Miwsig Caerdydd

Wasteland of my Fathers

25 Medi – 19 Tachwedd 2023

Bocs

Wedi'i ymestyn tan ddydd Sul 19 Tachwedd oherwydd galw mawr!

Archwiliwch fyd pync gyda Wasteland of my Fathers, arddangosfa o ddiwylliant pync ledled Cymru. Ymdrochwch eich hun yn y gerddoriaeth, gwaith celf DIY a geiriau sy’n procio’r meddwl sy’n diffinio’r is-ddiwylliant dylanwadol yma.

Gan ymgorffori’r ethos DIY a’r gweithredu sydd wedi llunio pync ers y Saithdegau, mae’r arddangosfa yma yn rhoi cipolwg ar y symudiad. Mae’n rhannu sut wnaeth pync ddod o hyd i’w le mewn ystadau cyngor, dociau a phentrefi cloddio a llechi, gan adael marc parhaol o’r gogledd i’r de.

Yng Nghymru, gwnaeth bandiau fabwysiadu pync a’i ethos, gan wneud eu datganiadau gwleidyddol eu hunain. Gwnaeth rhai ddechrau dadlau dros anarchiaeth, hawliau anifeiliaid, diarfogi niwclear a gwrth-hiliaeth. Roedd gan y byd pync yng Nghymru gefndir unigryw, yn wahanol i Efrog Newydd neu Lundain, a daeth yr angen i ddefnyddio dull DIY yn elfen bwysig ohono.

Er nad yw’r symudiad pync yng Nghymru yn cael llawer o sylw, mae’r arddangosfa yma yn rhoi cipolwg gwerthfawr o bync o ‘wlad y gân’. Peidiwch â cholli’r cyfle prin yma i gloddio i arwyddocâd diwylliannol pync yng Nghymru.

Arddangosfa rad ac am ddim wedi’i churadu gan Hanes Miwsig Caerdydd yw Wasteland of my Fathers.

Amser agor:
Maw – Sad 12pm – 9pm
Sul + Llun 12pm – 6pm

A VR headset resting on the floor with neon lights in the background

Cyflwynir yn

Bocs