Caerdydd – dewch i gwrdd â’r Carrie Bradshaw go iawn! Mae Entertainers yn cyhoeddi eu taith gyntaf o’r DU o sioe un fenyw lwyddiannus Candace Bushnell, sef True Tales of Sex, Success and Sex and the City.
Mae’r nofelydd rhyngwladol arobryn – awdur a chreawdwr y gyfres deledu eiconig Sex and the City – yn mynd â ni ar daith frysiog o Efrog Newydd, gan rannu ei hathroniaeth nodedig drwy straeon am ffasiwn, llenyddiaeth... ac, wrth gwrs, rhyw.
Ysbrydolodd colofn Candace yn y New York Observer y gyfres deledu, a enillodd nifer o wobrau Emmy, Golden Globe a Screen Actors Guild a chreodd dwy ffilm lwyddiannus. Ailddiffiniodd ei llwyddiannau ym maes llyfrau a’r sgrin berthnasoedd modern yn y 90au a’r 00au.
Mae’r hunangofiant anhygoel yma yn symud yn gyflym – o Candace yn cyrraedd Efrog Newydd gyda $20 yn ei phoced i erthyglau yn Time Magazine, y New York Times a Variety Magazine, a chyfweliadau gydag Oprah Winfrey. Bob amser yn bryfoclyd, caiff stori bywyd y ffenomenon llenyddol ei chrefftio i mewn i sioe lwyfan ysbrydoledig a difyr.
Felly, p’un a ydych chi’n uniaethu â Carrie, Miranda, Charlotte neu Samantha, mynnwch sedd, arllwyswch Gosmopolitan ac ymunwch â ni i gynnig llwncdestun i hunangofiannau sosi eicon diwylliannol. True Tales of Sex, Success and Sex and the City... yn dod i’r Theatr Donald Gordon am un noson yn unig ym mis Chwefror.
Canllaw oed: 12+ (dim plant dan 2 oed) yn cynnwys iaith gref
Amser cychwyn: 7.30pm
Hyd y perfformiad: i'w cadarnhau
CYFARFOD A CHYFARCH
Mae tocyn £69 yn cynnwys cyfle i gwrdd â Candace Bushnell, poster wedi'i lofnodi a laniard
Archebwch cyn gynted ag y gallwch i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Gall prisiau tocynnau newid heb rybudd a byddant yn adlewyrchu’r galw cyfredol.