Oherwydd newid annisgwyl, bydd y perfformiad yn dechrau am 7.30pm yn lle 7pm. Rydyn ni wedi cysylltu â deiliaid tocynnau y perfformiad dan sylw drwy e-bost.
Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn dod â noson fythgofiadwy o ffefrynnau’r byd opera i’r llwyfan.
Os ydych yn frwd dros opera neu’n awyddus i roi cynnig arni, eisteddwch ac ymunwch â ni ar daith drwy rai o’r darnau mwyaf adnabyddus yn y byd operatig, sy’n fwy cyfarwydd nag y byddech yn ei feddwl.
Mwynhewch gyfoeth o ariâu bendigedig, o’r darn hyfryd O mio babbino caro (Gianni Schicchi) i’r darn y gellir ei adnabod ar unwaith, La donna è mobile (Rigoletto), yn ogystal â darnau corawl a cherddorfaol aruchel o operâu gwych eraill. Bydd y noson yn cynnwys cerddoriaeth a glywir yn rheolaidd ym myd diwylliant poblogaidd, o Mozart i Verdi, Puccini, Britten a mwy – gan greu cymysgedd operatig cwbl arbennig.
wno.org.uk/favourites
#WNOfavourites
Amser dechrau: Maw 7.30pm
CYNIGION GRŴP
Grwpiau o 10+, gostyngiad o £4. Yn berthnasol i seddi penodol.
Trefnu ymweliad grŵp.
YSGOLION
£12.50 — yn berthnasol i seddi penodol. Tocyn athro am ddim gyda phob 10 disgybl. Ffoniwch 029 2063 6464 i archebu.
POBL O DAN 16 OED
Tocyn £5 wrth archebu gydag oedolyn sy'n talu am docyn pris llawn. Nodwch os gwelwch yn dda: rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn.
Mae pob cynnig yn seiliedig ar ddyraniadau ac argaeledd.
Archebwch cyn gynted â phosib er mwyn sicrhau’r dewis orau o seddi. Efallai bydd prisiau tocynnau’n cael eu haddasu a byddant yn adlewyrchu’r pris presennol ar gyfer pob perfformiad yn seiliedig ar alw. Gall prisiau newid ar unrhyw adeg heb rybudd.