Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Platfform

Radio Platfform: Sgiliau Darlledu Uwch

Radio Platfform

18 Ebrill – 23 Mai 2024

Platfform

Radio Platfform: Sgiliau Darlledu Uwch

18 Ebrill – 23 Mai 2024

Radio Platfform

Datblygwch eich sgiliau darlledu gyda Radio Platfform!

Yn galw ar aelodau Radio Platfform sydd wedi cwblhau ein hyfforddiant rhagarweiniol – mae’r cwrs newydd sbon yma i chi!

Perffeithiwch eich doniau darlledu ac ychwanegwch driciau newydd at eich repertoire! O ddatblygu sioeau cyfareddol i lunio rhaglenni diddorol, creu jingles bachog a meistroli’r ddesg, gallwn ni eich helpu chi. Hefyd, byddwn ni’n cloddio i fyd cyffrous darlledu byw, gan roi adnoddau i chi gyflwyno sioeau byw bythgofiadwy. 

Paratowch i wella eich sgiliau a datgelu eich potensial llawn ar yr awyr! 

PRYD MAE’R CWRS?

Mae’r cwrs yn rhedeg bob nos Iau rhwng 6pm a 8pm am chwe wythnos o 18 Ebrill i 23 Mai.

SUT YDW I’N ARCHEBU?

E-bostio radioplatfform@wmc.org.uk a byddwn yn anfon dolen i archebu lle.

EIN CYRSIAU PLATFFORM

Rhaglen hyfforddi unigryw yw Platfform sy’n cynnig llwyfan i bobl ifanc archwilio eu diddordebau, mynegi eu hunain, meithrin hyder creadigol a rhannu eu naratif drwy ddysgu ymarferol.

Caiff y gweithgaredd yma ei ariannu gan Sefydliad Moondance, Sefydliad Garfield Weston, Ymddiriedolaeth Elusennol Simon Gibson ac Ymddiriedolaeth Elusennol Mary Homfray.

Cyflwynir yn

Radio Platfform