Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Rydyn ni am i gymaint o bobl â phosibl fwynhau theatr ac adloniant byw, felly rydyn ni'n cynnig perfformiadau ymlaciedig a pherfformiadau hygyrch pan fyddwn ni'n gallu.

PERFFORMIADAU YMLACIEDIG

Mae'r rhain wedi'u cynllunio ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion anabl, pobl sydd ag anghenion cymorth ychwanegol a’r rhai sydd ar y sbectrwm awtistig.

Yn y perfformiadau teilwredig yma, rydyn ni'n gwneud llawer o addasiadau synhwyraidd, er enghraifft gostwng lefel y sain, goleuo mwy llachar, newidiadau i'r effeithiau arbennig a rhoi rhyddid i bobl symud o gwmpas yn ystod y perfformiad.

PERFFORMIADAU wedi’u sain ddisgrifio

Yn ystod perfformiadau sain ddisgrifiad, mae sylwebaeth fyw yn cael ei chwarae drwy glustffonau sy'n disgrifio elfennau gweledol y cynhyrchiad, er enghraifft y setiau, y gwisgoedd, y propiau a mynegiant wynebau.

Gellir casglu clustffonau Sennheiser o'r ystafell gotiau ddwy awr cyn i'r perfformiad ddechrau. Dim ond ar gyfer cynyrchiadau priodol mae'r rhain ar gael.

Rydyn ni hefyd yn cynnal Teithiau Cyffwrdd ar gyfer ymwelwyr dall a rhannol ddall er mwyn iddyn nhw ymgyfarwyddo â'r set cyn y perfformiad.

PERFFORMIADAU WEDI’U HARWYDDO

Mewn perfformiadau Iaith Arwyddion Prydain (BSL) mae disgrifwyr hyfforddedig yn dehongli'r sgript a'r iaith a ddefnyddir gan y perfformwyr wrth i'r perfformiad fynd yn ei flaen. Mae modd pennu seddi penodol yn y theatr fel bod modd i chi ddarllen dehongliad yr arwyddwr yn glir.

PERFFORMIADAU GYDA CHAPSIYNAU

Yn ystod y perfformiadau yma mae geiriau'r actorion yn ymddangos ar sgrin wrth ochr y llwyfan neu yn y set pan fyddan nhw’n cael eu hadrodd neu eu canu. Mae'r capsiynau hefyd yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol sy'n ddefnyddiol i bobl fyddar neu trwm eu clyw, er enghraifft enwau'r siaradwyr, effeithiau sain a synau oddi ar y llwyfan.

UWCHDEITLAU

Mae’r rhain yn cael eu darparu ar gyfer perfformiadau opera mewn ieithoedd tramor ac maent yn ymddangos ar sgrin uwchben y llwyfan. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Opera Cenedlaethol Cymru.

CLUSTFFONAU I GODI’R SAIN

P’un a oes gennych gymorth clyw ai peidio, mae gennym ni glustffonau 'dwbl' dros y glust neu glustffon 'sengl' yn y glust. Mae modd casglu’r rhain o'r ystafell gotiau.