Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Angeline Morrison

Angeline Morrison

14 Hydref 2023

Dewch i brofi byd cyfareddol Angeline Morrison, yr artist gwerin arobryn; cymysgedd teimladwy o adrodd straeon, melodïau hiraethus a chaneuon traddodiadol wedi'u hailddychmygu, gan gyfleu hanfod llên gwerin a'r goruwchnaturiol. 

Cafodd albwm 2022 Angeline Morrison The Sorrow Songs: Folk Songs of Black British Experience ei bleidleisio fel Albwm Gwerin y Flwyddyn yn The Guardian. Mae'n gantores, yn aml-offerynnwr ac yn gyfansoddwr sy'n archwilio caneuon traddodiadol gyda pharch, chwilfrydedd ac angerdd dwfn. 

Mae’n swnio fel unigedd, cof, hiraeth, taith gerdded drwy’r coed yn y glaw. Mae Angeline gan amlaf yn creu cerddoriaeth yn y genres gwerin seicadelig a gwerin hyn-od (wyrd folk), a’i gwaith wedi’i drwytho ag elfennau o gerddoriaeth soul, llenyddiaeth, synau pop cerddoriaeth bît y chwedegau, llên gwerin, chwedlau a’r goruwchnaturiol.

Mae cyfansoddiadau gwreiddiol Angeline yn canolbwyntio ar adrodd straeon a’r pethau bach sy’n aml yn pasio heb i neb sylwi arnynt. Mae ganddi sain sonig personol sy'n ailbwytho caneuon traddodiadol a chred ym mhwysigrwydd tynerwch. 

Amser dechrau: 5.30pm