Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Both Sides Now: Celebrating Joni Mitchell

Both Sides Now: Celebrating Joni Mitchell

13 Hydref 2023

Profwch deyrnged arbennig i Joni Mitchell wrth i Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wedi'i harwain gan Anthony Gabriele a'r cantorion adnabyddus Charlotte Church, Laura Mvula, ESKA, Georgia Ruth ac Olivia Chaney uno i gyflwyno’r perfformiad byw cyntaf erioed yn y DU o drefniannau cerddorfaol gwreiddiol Vince Mendoza o ganeuon o’r albymau llwyddiannus Both Sides Now a Travelogue yn Llais.

Bydd y noson yn cynnwys campweithiau sydd wedi’u trefnu’n llawn ar gyfer cerddorfa, gan ddathlu dylanwad parhaol Joni Mitchell ar gerddoriaeth gyfoes a’i rôl fel artist gweledigaethol ac ymgyrchydd.Lluniwyd yr albwm Both Sides Now, a ryddhawyd yn 2000, fel cylch o ganeuon yn dogfennu perthynas, o’r fflyrtio cychwynnol i gyflawnder optimistaidd, gan orffen mewn dadrithiad ac anobaith eironig, ac yn olaf trosolwg athronyddol o dderbyn a'r tebygolrwydd y bydd y cylch yn ailadrodd ei hunan. Mae’r albwm dwbl Travelogue (2002) hefyd yn cynnwys trefniannau hyfryd Mendoza i ganeuon gwreiddiol Mitchell.Yn y cyngerdd arbennig yma, bydd y cantorion gwadd hefyd yn perfformio eu dehongliadau eu hunain o rai o ganeuon Joni o amrywiaeth o albymau ar draws ei gyrfa.

Clodrestr

Cantorion  Charlotte Church, Laura Mvula, ESKA, Georgia Ruth and Olivia Chaney

Cerddorfa  Cerddorfa Cenedlaethol Cymreig y BBC

Arweinydd Anthony Gabriele

Cyfarwyddwr Cerdd Kate St. John

Amser dechrau: 8.30pm

TALWCH BETH Y GALLWCH

Yn newydd eleni, rydyn ni’n lansio nifer cyfyngedig o docynnau Talwch Beth y Gallwch lle y gallwch chi wneud cais am hyd at ddau ddigwyddiad Llais o’ch dewis ar sail y cyntaf i’r felin. Dysgwch fwy am y cynllun Talwch Beth y Gallwch.